Y Prif Weinidog yn croesawu Cymru i Whitehall ar Ddydd Gŵyl Dewi
Stryd Downing yn cynnal derbyniad i ddathlu diwrnod cenedlaethol Cymru
Bydd baner Cymru yn chwifio’n falch uwchben Rhif 10 Stryd Downing heddiw pan fydd y Prif Weinidog Theresa May yn croesawu gwesteion o fusnesau, twristiaeth, chwaraeon a chyfryngau Cymru i dderbyniad yn Rhif 10 i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth).
Bydd y cyflenwyr bwyd a diod gorau yng Nghymru yn arddangos eu cynhyrchion yn y digwyddiad yn cynnwys wisgi Penderyn, gwin o Winllan Glyndwr a chynnyrch Cymreig o Cwm Farm Charcuterie.
Bydd perfformiadau hefyd gan Cor y Boro o Lundain a’r telynor Rhys Ward-Haugh.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Yn y derbyniad heddiw, byddwn yn dathlu popeth sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd - ac mae llawer i’w ddathlu yn wir.
Rydyn ni’n wlad falch - ac yn rhan arbennig o’r Deyrnas Unedig. Ac rydyn ni’n gartref i rai o’r doniau a’r diwydiannau gorau yn y byd.
Mae entrepreneuriaid, dyfeiswyr a phobl greadigol o Gymru yn creu argraff barhaol dros y byd i gyd, gyda phob un yn cyfrannu at y chwyldro mawr ym maes chwaraeon, bwyd, y celfyddydau a busnes yng Nghymru.
Rydw i wrth fy modd yn cael ymuno â’r Prif Weinidog i groesawu Cymru i Stryd Downing heddiw, a hoffwn estyn pob dymuniad da i bawb sy’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi ledled y byd”.
NODIADAU I OLYGYDDION
Dyma gyflenwyr y derbyniad:
- Distyllfa Penderyn
- Gwinllan Glyndwr
- Ridiculously Rich gan Alana
- Tregroes Waffles
- Creision Jones o Gymru
- Darperir yr arlwyo gan Gymdeithas Goginio Cymru
- Darperir y Cennin Pedr gan Greenacre Garden Market