Gyrwyr i arbed £150 miliwn dros y deng mlynedd nesaf wrth i ffioedd trwyddedau gyrru ostwng
Bydd gyrwyr yn arbed hyd at £150 miliwn dros y deng mlynedd nesaf wrth i’r gost o gael trwydded yrru ostwng yn sylweddol, yn ôl cyhoeddiad a wnaed gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander a’r Gweinidog Trafnidiaeth Claire Perry heddiw.
Bydd ffioedd trwyddedau gyrru yn gostwng hyd at 32% fel rhan o ymroddiad y llywodraeth i gyflwyno arbedion i’r trethdalwr.
Bydd y newidiadau, sy’n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, yn dod i rym ar 31 Hydref 2014. Bydd gyrwyr fydd yn gwneud cais ar-lein yn gweld y ffi am drwydded yrru dros dro yn gostwng o £50 i £34 a ffi adnewyddu ar ôl deng mlynedd ar-lein yn gostwng o £20 i £14. Bydd y ffi ar gyfer cardiau tacograff i yrwyr – a ddefnyddir gan fusnesau i gofnodi pellteroedd gyrru eu staff – yn gostwng o £38 i £32.
Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys:
Mae rhoi arbedion yn ôl i’r trethdalwr yn elfen allweddol yn ymgyrch y llywodraeth hon am economi gryfach a chymdeithas decach. Dyna pam yr ydym yn wir ostwng y gost o gael trwydded yrru a rhoi’r arian yn ôl yn syth i bobl ifanc a busnesau, gan arbed £150 miliwn dros ddeng mlynedd.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Claire Perry:
Gall cost gyrru, yn arbennig i yrwyr ifanc, fod yn sylweddol ac rydym yn ymroddedig i leihau costau lle gallwn wneud hynny. Oherwydd i’r DVLA wneud arbedion ar raddfa fawr i’w costau cynnal gwasanaethau, rydym wedi gallu gostwng cost y drwydded yrru gan arbed £150 miliwn dros y deng mlynedd nesaf i yrwyr a busnesau.
Mae’r DVLA yn adolygu’r ffioedd i gyd a chanlyniad rhan gyntaf yr adolygu parhaus hwn yw’r gostyngiad mewn ffioedd trwyddedau gyrru. Mae’r ffioedd eraill sy’n cael eu hystyried yn yr adolygiad yn cynnwys cofrestru cerbydau am y tro cyntaf a thystysgrifau cofrestru dyblyg.
Prosesir miliwn o geisiadau ‘trwydded gyntaf’ bob blwyddyn a bydd y gostyngiad mewn ffioedd yn arbed £82.2 miliwn dros ddeng mlynedd i yrwyr newydd. Gwneir 77% o’r ceisiadau hyn gan bobl ifanc 17-24 oed. Hefyd adnewyddir 2.1 miliwn o drwyddedau cerdyn-llun bob blwyddyn a bydd y newidiadau yn arbed £61.3 miliwn i fodurwyr dros ddegawd.
Mae busnesau yn gwneud 85,500 arall o adnewyddiadau y flwyddyn a bydd yn arbed £2.44 miliwn dros ddeng mlynedd tra bydd yr arbedion cost ar dacograffau yn arbed £3.58 miliwn arall dros y ddegawd.
Math o drwydded | Ffi gyfredol | Ffi newydd ar-lein | Ffi newydd cais drwy’r post |
---|---|---|---|
Trwydded dros dro | £50 | £34 | £43 |
Adnewyddu trwydded cerdyn-llun | £20 | £14 | £17 |
Cardiau Tacograff Gyrrwr a Chwmni | £38 | Gwasanaeth drwy’r post yn unig | £32 |
-Diwedd-
Nodiadau i olygyddion
-
Mae’r ffioedd trwydded yrru cyfredol ar gael i’w gweld ar Ffioedd trwydded yrru
-
Bydd y ffioedd newydd yn dod i rym ar 31 Hydref 2014. Y gostyngiad mewn ffioedd trwyddedau gyrru yw’r cam cyntaf yn adolygiad y DVLA o’i ffioedd. Bydd yr ail gyfnod yn cynnwys adolygiad cynhwysfawr o gyllid y DVLA a bydd yn canolbwyntio ar y ffordd maent yn cyflenwi eu gwasanaethau i gwsmeriaid yn dilyn cyflwyno gwasanaethau digidol pellach
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
E-bost [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407