Datganiad i'r wasg

Mae diweddariad gwasanaeth digidol DVLA yn caniatáu i fodurwyr drethu cerbyd heb lyfr log a llythyr atgoffa treth

Gall modurwyr sy'n gwneud cais am V5CW dyblyg (llyfr log) bellach drethu eu cerbyd heb orfod aros i'w llyfr log gyrraedd.

Mae DVLA wedi cyhoeddi diweddariad gwasanaeth newydd sy’n caniatáu i fodurwyr drethu eu cerbyd hyd yn oed os ydynt wedi colli eu V5CW (llyfr log) a’u llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W).

Yn flaenorol, byddai cwsmeriaid a oedd wedi colli’r dogfennau hyn wedi gorfod aros hyd at 5 diwrnod i V5CW newydd gyrraedd, neu ffonio Canolfan Gyswllt DVLA i drethu eu cerbyd. Bydd y diweddariad diweddaraf hwn yn caniatáu i gwsmeriaid wneud cais ar-lein am V5CW newydd a threthu eu cerbyd ar yr un pryd.

Dyma’r tro cyntaf i DVLA gysylltu eu gwasanaeth cofrestru ar-lein â’u gwasanaeth trwyddedu ar-lein, gan ganiatáu i’r cwsmer hunan-wasanaethu trwy’r 2 sianel ddigidol mewn un siwrne ddi-dor i gwsmeriaid.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella ein gwasanaethau digidol i ddarparu mwy o gyfleustra i fodurwyr. Bydd y gwelliant diweddaraf hwn yn galluogi cwsmeriaid sydd wedi colli eu V5CW i gael un amnewid a threthu eu cerbyd yn gyflym ac yn hawdd.

Mae’r gwasanaeth ar-lein wedi’i ddiweddaru ar gael yn www.gov.uk/llyfr-log-cerbyd

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2024