DVLA yn lansio cyfrif ar-lein newydd i fodurwyr
Mae DVLA yn gofyn modurwyr i brofi gwasanaeth newydd sy’n eu galluogi nhw i weld eu manylion trwydded yrru a cherbydau i gyd yn yr un lle.
O heddiw (2 Awst 2023), mae modurwyr yn gallu dewis negeseuon atgoffa treth cerbyd digidol yn hytrach na gorfod aros am nodyn atgoffa papur i syrthio drwy eu blwch llythyrau. Mae’r newid yn dod fel rhan o wasanaeth newydd Cyfrif gyrwyr a cherbydau DVLA, sy’n lansio ar GOV.UK heddiw.
Bydd fersiwn Gymraeg o’r Cyfrif gyrwyr a cherbydau ar gael yn fuan.
Mae’r gwasanaeth newydd, sy’n caniatáu i fodurwyr gyrchu eu gwybodaeth gyrrwr a cherbyd mewn un lle yn hawdd, wedi cael ei lansio fel beta cyhoeddus ac mae DVLA yn gofyn i fodurwyr ddarparu adborth i helpu datblygu’r gwasanaeth.
Mae’r cyfrif Gyrwyr a cherbydau yn hawdd i’w ddefnyddio, yn ddiogel, ac mae’n cymryd tua 5 munud yn unig i gofrestru. Unwaith bod cyfrif wedi cael ei sefydlu, gall modurwyr fewngofnodi gan ddefnyddio eu he-bost a chyfrinair, a byddant yn gallu:
- gweld eu gwybodaeth trwydded yrru, gan gynnwys ardystiadau a phwyntiau cosb
- gweld cerbydau sy’n gofrestredig iddynt gan gynnwys statws treth a MOT
- newid eu dewisiadau cyswllt
- sefydlu negeseuon atgoffa treth cerbyd drwy e-bost ac am y tro cyntaf drwy neges destun SMS
- dewis peidio â chael negeseuon atgoffa treth cerbyd drwy’r post
Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:
Rydym yn gofyn i fodurwyr ein helpu i brofi’r gwasanaeth. Mae’n rhad ac am ddim, ac yn syml i gofrestru ar gyfer cyfrif. Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn cael ei ddatblygu a byddwn yn ychwanegu rhagor o nodweddion ond rydym am roi mynediad i gwsmeriaid mor gynnar â phosibl fel y gallant roi cynnig arno a rhoi eu hadborth inni.
Gall modurwyr â phasbort y DU sefydlu cyfrif heddiw a rhoi eu hadborth ar y gwasanaeth newydd yn www.gov.uk/driver-vehicles-account
Nodiadau i olygyddion:
- Mae DVLA yn sefydliad digidol yn gyntaf sy’n gyfrifol am gynnal dros 50 miliwn o gofnodion gyrwyr a 40 miliwn o gofnodion cerbydau.
I gofrestru am Gyfrif gyrwyr a cherbydau, dylai modurwyr:
- fynd i www.gov.uk/driver-vehicles-account
- darparu cyfeiriad e-bost a dilysu eu manylion â chod cyfrin untro
- darparu eu manylion personol gan gynnwys enw, dyddiad geni, a chyfeiriad
- cadarnhau eu hunaniaeth gan ddefnyddio pasbort y DU (sy’n gallu cynnwys y rhai a ddaeth i ben o fewn y 12 mis diwethaf)
- darparu Trwydded Yrru Prydain Fawr neu Rif yswiriant cenedlaethol (efallai y bydd DVLA hefyd yn cyflawni gwiriadau hunaniaeth ychwanegol)
- creu cyfrinair
Mae’r ‘Cyfrif gyrwyr a cherbydau’ ar gael i ddeiliaid trwyddedau gyrru Prydain Fawr yn unig. Nid yw’n estyn i Ogledd Iwerddon. Mae Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am drwyddedu gyrwyr yng Ngogledd Iwerddon ac yn dal y cofnodion hynny, nid DVLA.
Mae cwsmeriaid Gogledd Iwerddon yn gallu gweld gwybodaeth eu cerbydau ar-lein drwy fynd i http://www.gov.uk/cael-gwybodaeth-cerbyd-gan-dvla
Nid oes angen i fodurwyr sydd wedi dewis trethu eu cerbyd drwy Ddebyd Uniongyrchol gofrestru i dderbyn nodyn atgoffa V11W digidol oherwydd bydd eu Debyd Uniongyrchol yn adnewyddu’n awtomatig (ar yr amod fod gan eu cerbyd MOT dilys).
Mae gwasanaethau ychwanegol a gynllunnir ar gyfer y cyfrif yn cynnwys:
- Gwneud cais am drwydded yrru dros dro gyntaf
- Adnewyddu trwydded bob deng mlynedd lle bydd cwsmeriaid yn gallu lanlwytho llun ac olrhain ei gynnydd.
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
E-bost [email protected]
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407