Datganiad i'r wasg

Adolygiad DVLA wedi’i gyhoeddi i gryfhau’r asiantaeth ar gyfer y dyfodol

Mae’r adolygiad yn nodi sut y gall yr asiantaeth barhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i fodurwyr.

  • mae adolygiad annibynnol wedi casglu bod DVLA yn asiantaeth hollbwysig a dylai barhau i esblygu i gwrdd â heriau’r dyfodol
  • mae’r adolygiad yn nodi 19 argymhelliad i gryfhau gallu’r DVLA i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwerth i drethdalwyr
  • rhan o asesiad ehangach Swyddfa’r Cabinet o gyrff cyhoeddus ar effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, atebolrwydd a llywodraethu

Heddiw (7 Tachwedd 2024) mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i sicrhau y gall y sefydliad barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a gwerth am arian i drethdalwyr.

Mae DVLA yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw ffyrdd y DU yn ddiogel a chadw Prydain i symud. Mae ganddi fwy na 50 miliwn o gofnodion gyrwyr a mwy na 40 miliwn o gofnodion cerbydau, tra’n casglu dros £7 biliwn y flwyddyn mewn Treth Cerbyd (VED).

Mae’r adolygiad yn rhan o Raglen Adolygu Cyrff Cyhoeddus Swyddfa’r Cabinet ac yn asesu DVLA yn erbyn y 4 piler o effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, atebolrwydd a llywodraethu.

Fe wnaeth yr adolygiad gasglu bod DVLA yn asiantaeth weithredol hollbwysig o’r Adran Drafnidiaeth (DfT), ac mae’n nodi 19 o argymhellion i sicrhau bod DVLA yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaeth rhagorol i fodurwyr yn y dyfodol.

Mae argymhellion allweddol yn cynnwys bod DVLA yn:

  • gosod strategaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer darparu gwasanaethau
  • cyflymu ei drawsnewidiad i sefydliad hyd yn oed yn fwy deinamig, digidol ac sy’n cael ei yrru gan ddata
  • cryfhau profiad y cwsmer, yn enwedig ar gyfer grwpiau rhanddeiliaid llai a bregus

Dywedodd y Gweinidog Dyfodol Ffyrdd, Lilian Greenwood AS:

O gadw mwy na 50 miliwn o gofnodion gyrwyr a chyhoeddi trwyddedau gyrru i helpu’r heddlu i ddelio â throseddau, mae DVLA yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod ein ffyrdd ymhlith y mwyaf diogel yn y byd.

Mae’r adolygiad hwn yn hanfodol i ddeall sut y gall yr asiantaeth barhau i fynd o nerth i nerth i ddiwallu anghenion a heriau’r dyfodol sy’n newid yn barhaus.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda DVLA i sicrhau ei bod yn parhau i esblygu fel sefydliad sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, sy’n cael ei ysgogi gan ddata, ac sy’n ddigidol yn gyntaf.

Derbyniodd y Gweinidog Greenwood ganfyddiadau’r adolygiad annibynnol ac ymrwymodd yr Adran Drafnidiaeth a DVLA i weithredu ar yr argymhellion.

Dywedodd Cadeirydd Anweithredol DVLA, David Jones:

Mae ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn yn DVLA, ymrwymiad sy’n cael ei rannu gan ein 6,000 a mwy o staff gweithgar ac ymroddedig.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda DfT a’n holl randdeiliaid ar ddarparu gwasanaethau o safon fyd-eang i’n cwsmeriaid, gan ymateb i fyd sy’n fwyfwy digidol.

Arweiniwyd yr adolygiad gan adolygydd arweiniol annibynnol, Janette Beinart, sy’n Gyfarwyddwr Anweithredol yn y Priffyrdd Cenedlaethol.

Roads media enquiries

Media enquiries 0300 7777 878

Switchboard 0300 330 3000

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd 2024