Datganiad i'r wasg

Niferoedd uchaf mewn cyflogaeth wrth i economi Cymru achub y blaen

Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu lefelau cyflogaeth uchel

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Cafodd lefelau cyflogaeth uchel eu croesawu heddiw gan Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth i ffigyrau newydd ddangos economi sy’n adfywio.

Daeth mwy nag 8,000 o bobl o hyd i waith yn y tri mis diwethaf, ac mae’r gyfradd diweithdra wedi gostwng i lefelau na welwyd ers cyn y dirywiad economaidd yn 2008-09.

Mae Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw yn dangos y canlynol:

  • Mae cyflogaeth i fyny 8,000 dros y chwarter, gyda’r gyfradd i fyny 0.3 y cant i 71.2 y cant
  • Mae diweithdra i lawr 12,000 yn yr un cyfnod, gyda’r gyfradd yn gostwng 0.8 y cant i 5.3 y cant
  • Mae’r nifer o bobl sy’n hawlio budd-daliadau wedi gostwng 900
  • Mae’r nifer o bobl ifanc sy’n hawlio budd-daliadau wedi gostwng 2,000 dros y flwyddyn
  • Mae anweithgarwch economaidd - sef pobl nad ydynt mewn cyflogaeth nac yn ddi-waith, ond sydd er enghraifft yn astudio neu’n gofalu am aelod o’r teulu - i fyny 5,000 dros y chwarter

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae’r nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith yng Nghymru wrth i’r economi symud oddi wrth ei dibyniaeth draddodiadol ar Lundain a De-ddwyrain Lloegr ac wrth i fwy o bobl gael eu denu yn ôl i waith o ganlyniad i ddiwygio lles.

Mae’r cyhoeddiad diweddar am swyddi’n cael eu colli ym Mhort Talbot yn dangos ein bod dal yn agored i economi fyd-eang ansicr. Ond, bydd y Llywodraeth yn parhau i greu’r amgylchiadau cywir i fusnesau ffynnu er mwyn iddynt allu denu swyddi da gyda chyflogau uchel i Gymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Chwefror 2016