Treialon maes yn mynd rhagddynt ar gyfer brechlyn i wartheg a phrawf croen ar gyfer twbercwlosis buchol sy'n torri tir newydd
Lansiwyd y treialon maes clinigol cyntaf yn y byd ar gyfer brechlyn BCG a phrawf croen DIVA ar fferm wartheg yn Swydd Hertford.
- Lansiwyd y treialon maes clinigol cyntaf yn y byd ar gyfer brechlyn BCG a phrawf croen DIVA ar fferm wartheg yn Swydd Hertford.
- Caiff y gwaith ei ehangu i gynnwys rhagor o ffermydd ledled Cymru a Lloegr
- Bydd y treialon yn helpu i ganfod pa mor gywir a diogel yw’r brechlyn i wartheg a’r prawf croen
Cyhoeddodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) heddiw fod treialon maes ar gyfer brechlyn i wartheg a phrawf croen newydd ar gyfer twbercwlosis buchol (bTB), sef y cyntaf o’u math yn y byd, wedi dechrau yn Lloegr.
Os bydd y treialon maes yn llwyddiannus, bydd ffermwyr a milfeddygon gam yn nes at allu brechu eu hanifeiliaid rhag y clefyd, gan helpu i achub miloedd o wartheg a fyddai’n cael eu difa bob blwyddyn fel arall er mwyn atal bTB rhag lledaenu i fuchesi eraill. Bydd y prawf croen a gaiff ei ddarparu gyda’r brechlyn hefyd yn ddatblygiad pwysig iawn drwy alluogi milfeddygon i ganfod gwartheg sydd wedi cael eu brechu a’r rhai sydd wedi’u heintio â’r clefyd – nid yw hyn wedi bod yn bosibl hyd yma.
bTB yw’r her anoddaf a mwyaf anhydrin i iechyd anifeiliaid rydym yn ei hwynebu heddiw, ac mae’n costio tua £100 miliwn i drethdalwyr bob blwyddyn. Bu’n rhaid lladd dros 36,000 o wartheg yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn mynd i’r afael â’r clefyd, ac mae’r DU ar flaen y gad yn y gwaith o ddatblygu brechlyn i wartheg, gyda’r nod o’i gyflwyno erbyn 2025.
Ym mis Rhagfyr, dyfarnodd APHA – sydd â mwy na 500 o staff sy’n rhan o’r gwaith o fynd i’r afael â’r clefyd – gontract i Eville & Jones i gynnal treialon maes clinigol ar wartheg yn sgil mwy nag 20 mlynedd o waith ymchwil arloesol a gynhaliwyd gan yr asiantaeth.
Mae fferm â statws heb bTB yn Swydd Hertford wedi dechrau ar gam cyntaf y treialon hyn i ganfod pa mor ddiogel a chywir yw prawf croen DIVA, a bydd mwy o fuchesi ledled Cymru a Lloegr yn ymuno yn y treialon yn ystod y misoedd nesaf.
Os bydd y treialon hyn yn llwyddiannus, caiff yr astudiaeth ei hehangu wedyn i gynnwys rhagor o ffermydd yng Nghymru a Lloegr fel rhan o’r ail gam er mwyn profi brechlyn BCG i wartheg a phrawf croen DIVA gyda’i gilydd.
Drwy hyn, bydd yn bosibl i ni gasglu digon o dystiolaeth i ategu cais am Awdurdodiad Marchnad (MA) i’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol i ddefnyddio’r brechlyn a’r prawf yn y DU.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr a’r Alban:
Twbercwlosis Buchol yw un o’r heriau anoddaf ym maes clefydau anifeiliaid rydym yn eu hwynebu heddiw. Fodd bynnag, bydd llawer o ffermwyr y mae’r clefyd hwn wedi cael effaith fawr arnynt yn croesawu’r newyddion bod y treialon maes arloesol hyn bellach wedi dechrau, am eu bod yn gam pwysig ymlaen yn ein hymdrechion i gyflwyno brechlyn effeithiol i wartheg erbyn 2025.
Os bydd y treialon hyn yn llwyddiannus, gallai’r prosiect hwn, sef y cyntaf o’i fath yn y byd, arwain at ddefnyddio brechlyn bTB i wartheg a phrawf croen DIVA am y tro cyntaf, a bydd yn hollbwysig er mwyn mynd i’r afael â’r clefyd ofnadwy hwn sy’n effeithio ar lawer o wledydd ledled y byd.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen i frechu gwartheg rhag bTB ar gael ar Flog Gwyddoniaeth APHA ac ar wefan TB Hub.