Pymtheg person ifanc yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng Ngwent
Mae ymdrechion 15 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys un ar ddeg cadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.
Penododd y Brigadydd Robert Aitken CBE bum person ifanc fel cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer Gwent eleni mewn seremoni wobrwyo ym Marics Rhaglan, Casnewydd, ddydd Iau 9 Chwefror.
Cafodd y Cadét Staff, Uwch-Ringyll Catrodol Eshan Iqbal o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Uwch-Ringyll y Cadetiaid Olivia Armstrong o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Trefynwy; Y Corporal Gadét Macsen Purser o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Uwchradd Llanwern; y Cadét Abl Alex Jones o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd a’r Swyddog Gwarant Cadetiaid Deighton Davies o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing eu penodi i rôl cadetiaid yr Arglwydd Raglaw.
Mae Eshan, 18 oed, o Gasnewydd, sy’n mynychu Ysgol St Julian, yn gobeithio dilyn gyrfa yn y fyddin. Y tu allan i’r cadetiaid, mae’n gwneud gwaith gwirfoddol yn y gymuned gydag elusennau lleol a grwpiau eglwysi.
Mae Olivia, sy’n mynychu Ysgol Ferched yr Haberdashers Trefynwy, hefyd yn gobeithio dilyn gyrfa yn y fyddin. Mae hi’n bencampwraig lwyddiannus ar ôl cynrychioli Cymru yn lacrosse.
Mae Macsen, sy’n mynychu Ysgol Uwchradd Llanwern, yn farciwr eithriadol ac fe’i disgrifir fel model rôl eithriadol i gadetiaid iau yn ei lu.
Mae Alex, sy’n mynychu Ysgol St Julian, yn gerddor brwd a chafodd ei ddewis i fod yn aelod o Fand Mawr Cadetiaid y Môr, a oedd yn arwain Gorymdaith Trafalgar yn Llundain. Mae hefyd wedi chwarae ochr yn ochr â cherddorion Band y Môr-filwyr Brenhinol.
Mae Deighton, o’r Coed Duon, yn anelu at fod yn beilot cwmni awyrennau masnachol ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae wedi creu adnoddau dwyieithog yn sgwadron i gefnogi’r niferoedd cynyddol o gadetiaid sy’n siarad Cymraeg.
Mae’r rôl sy’n para am flwyddyn yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau swyddogol gyda’r Brigadydd. Mae’r Brigadydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.
Byddan nhw’n dilyn ôl-traed y canlynol: sef y Cadét Abl Kaitlyn Summerhayes o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd; Cadét Staff Uwch-Ringyll Cwmni, Jake Thomas o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Rhingyll Cadét Hamish Nicoll o Lu Cadetiaid Gwent a Phowys; y Swyddog Gwarant Cadetiaid Iestyn Jones o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing, Rhingyll Cadét Hedfan William Cocking o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing a Rhingyll Cadét Hayley Gabica o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Uwchradd Llanwern. Cafodd y rhain Dystysgrif a Bathodyn Arglwydd Raglaw am eu gwaith fel cynrychiolwyr 2022.
Cafodd pedwar unigolyn eu cydnabod am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, a dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw iddyn nhw.
Roedd y rhain yn cynnwys Rothery Harris, Hyfforddwr Sifilaidd, o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing; Jeffrey Harris, yr Hyfforddwr Uwch-Ringyll Catrodol, o Lu Cadetiaid Gwent a Phowys; y Rhingyll Gareth Evans o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 2 y Welsh Wing a Mr Colin Edwards o Gorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru.
Daeth Rothery, o Wndy, yn Hyfforddwr Sifilaidd yn Sgwadron 2012 (Caldicot), ar ôl cwblhau gyrfa nodedig o wasanaeth mewn lifrai, lle mae wedi dangos arweinyddiaeth ac ymroddiad gwych yn absenoldeb cadlywydd mewn iwnifform.
Mae Jeffrey, o Gasnewydd, cyn gadét a swyddog heddlu wedi ymddeol, yn arddangos y safonau a’r gwerthoedd uchaf ac mae ganddo hunanddisgyblaeth a pharch rhagorol tuag at bawb.
Mae Gareth, cyn Arglwydd Raglaw dros Bowys, yn teithio o’i gartref yng Nghasnewydd i sgwadron 579 (Llandrindod) hyd at ddwywaith yr wythnos i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr un cyfle ag a gafodd yntau fel person ifanc.
Ymunodd Colin, o Gaerffili, fel milwr wrth gefn ar ôl bod yn filwr am 22 mlynedd. Fel yr un sy’n gofalu am yr uned yng Nghorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgolion Cymru, mae wedi bod yn un o’r hoelion wyth ers blynyddoedd lawer gan sicrhau bod gan y cadetiaid swyddogion yr adnoddau cywir ar amser ar gyfer unrhyw weithgaredd.
Mae bron i 5,000 o Gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol ac elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Roedd tua 100 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.