Pedwar o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ym Mhowys
Mae ymdrechion pedwar o bobl o bob rhan o Bowys wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin yn y sir.
Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i ddau berson gan Mrs Tia Jones i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd yn y seremoni yng Ngwesty’r Elephant and Castle yn y Drenewydd ddydd Iau, 11 Ionawr.
Cafodd cyflawniadau dau gadét yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad a fynychwyd gan tua 50 o bobl.
Rhoddodd yr Uwch-ringyll Cwmni y Cadet Elliot Paul Tranter o Gadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys a’r Awyr-Lefftenant y Cadet Amira Vieyra o Gadetiaid Awyr RAF Adain Cymru Rhif 2 gyflwyniad i’r gynulleidfa am eu hamser yn y cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu rôl dros y 12 mis diwethaf fel cadetiaid yr Arglwydd Raglaw.
Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu nifer o ymrwymiadau swyddogol, gan gynnwys digwyddiadau’r Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau gydag Arglwydd Raglaw Powys, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin.
Cafodd Elliot ac Amira, a fydd yn parhau yn eu swydd tan fis Medi, eu dewis ar gyfer rôl fawreddog cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr y cadetiaid a’r Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru.
Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i ddau oedolyn – Mrs Pam Jones a’r Hyfforddwr Rhingyll Staff Ken Griffiths o Gadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys – Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw.
Ymunodd Ken, sy’n giper o Lanandras, â’r ACF fel gwirfoddolwr hŷn wyth mis cyn i Covid daro, ond wnaeth o ddim gadael i hynny ei atal rhag cwblhau ei holl hyfforddiant yn rhithiol felly roedd yn barod amdani unwaith y byddai’r hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ailgychwyn. Mae wedi bod yn ‘tour de force’ byth ers hynny ac mae bellach yng ngofal dwy fintai, gan gynnwys Mintai Llanfair-ym-muallt a Llandrindod lle mae lefelau presenoldeb a chyfranogi wedi codi i lefel ddigynsail.
Ymunodd Pam â’r ACF ddwy flynedd yn ôl fel gwirfoddolwr di-iwnifform er mwyn cynorthwyo ei gŵr y Capten Paul Jones a oedd newydd wirfoddoli i ailagor mintai Llanidloes. Heb unrhyw Wirfoddolwyr Hŷn eraill o’r Cadetiaid ar gael - roedd protocolau diogelu yn golygu bod angen o leiaf ddau oedolyn drwy’r amser - gwirfoddolodd Pam ei gwasanaethau. Ers hynny mae’r fintai wedi mwynhau llwyddiant mawr gydag 20 cadet bellach yn gorymdeithio - sy’n dyst o ymroddiad a chefnogaeth Pam.
Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol ac elusennau a thrwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr hŷn gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser hamdden yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Cafodd y seremoni wobrwyo ei threfnu gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru - sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.