O San Steffan i Sir Benfro: Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ateb Cwestiynau Cymreig o Gymru am y tro cyntaf mewn hanes
Simon Hart AS fydd y weinidog gyntaf i fynd i'r blwch dogfennau rhithiol o'r cartref
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn derbyn cwestiynau gan Aelodau Seneddol o’i gartref yn Sir Benfro yn hwyrach heddiw (22 Ebrill), am y tro cyntaf yn hanes Senedd y DU y bydd trafodaethau’n cael eu cynnal o bell.
Cwestiynau Cymreig fydd yr eitem fusnes ffurfiol cyntaf i gael ei chynnal ar ffurf rithiol ddydd Mercher. O dan y fformat newydd, bydd nifer cyfyngedig o Aelodau Seneddol yn bresennol yn y Siambr ac yn dilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol llym, gydag aelodau eraill yn gallu cymryd rhan o bell.
Mae heddiw yn nodi’r tro cyntaf yn hanes 700 mlynedd Tŷ’r Cyffredin y bydd Aelodau Seneddol yn cael y cyfle i holi gweinidogion yn rhithiol a’r tro cyntaf yn hanes 55 mlynedd Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru bydd Cwestiynau Cymreig yn cael eu cynnal yn rhannol ar dir Cymru gyda Mr Hart yn cymryd rhan o’i etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Bydd y Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru David Davies hefyd yn cymryd rhan o’i etholaeth ym Mynwy.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i bobl weithio o gartref lle fod hynny’n bosib yn ystod y pandemig coronafeirws ac mae’n iawn fod gwaith Llywodraeth y DU yn cael ei wneud yn wahanol yn ystod y cyfnod digyffelyb yma.
Mae hyn yn golygu parhau i barchu mesurau o ymbellhau cymdeithasol a defnyddio ffurfiau eraill, yn cynnwys fideo-gynadledda i gyfathrebu â chydweithwyr.
Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau y gall Senedd y DU barhau i weithredu tra’n arafu lledaeniad y feirws, gan ddiogelu’r GIG ac achub bywydau.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae mwy o wybodaeth ar sut bydd Senedd y DU yn gweithredu yn ystod argyfwng y coronafeirws ar gael ar parliament.uk
- Bydd trafodion Senedd y DU ar ddydd Mercher yn cael eu darlledu ar Parliamentlive.tv a BBC Parliament.