Gweinidogion y Llywodraeth yn ymweld a Chymru fel rhan o rhaglen ymgysylltu y Strategaeth Diwydiannol.
Alun Cairns: Mae strategaeth ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU yn gynllun i bawb
- Gweinidogion yn ymweld â safleoedd ledled Cymru i esbonio sut y bydd y cynlluniau ar gyfer Strategaeth Ddiwydiannol fodern yn dod â budd i Gymru.
- Bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn ymuno â’r Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, yn General Electric (GE) Aviation er mwyn ymweld â’r llinell gynhyrchu a chwrdd â staff.
- Wedi’r digwyddiadau ymgysylltu ceir derbyniad yng Nghaerdydd gyda’r nos yng nghwmni busnesau a chyrff Cymreig blaenllaw.
Bydd rhaglen ymgysylltu y Llywodraeth ar gyfer ei Strategaeth Ddiwydiannol yn parhau heddiw, pan fydd Gweinidogion yn cwrdd â phrifysgolion, cwmnïau a gweithwyr yng Nghymru er mwyn clywed eu safbwyntiau ynghylch sut i sicrhau bod yr economi’n gweithredu i’w llawn botensial.
Bydd yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn ymweld â General Electric (GE) Aviation yng Nghaerdydd i gwrdd â’r staff cynhyrchu a’r rheolwyr, cyn mynd ar daith o amgylch y safle i weld y gwasanaethau o ansawdd fyd-eang y mae GE yn eu cynnig i gwmnïau hedfan ledled y byd.
Yna bydd Greg Clark, Alun Cairns a Gweinidogion Busnes yn cynnal derbyniad gyda’r nos yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd gyda busnesau Cymreig, grwpiau masnach ac arweinwyr lleol, er mwyn trafod safbwyntiau cymuned fusnes Cymru ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer Strategaeth Ddiwydiannol fodern.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes ac Ynni, Greg Clark:
Rydym yn cydnabod nad oes unrhyw ddau le yn y DU sydd yr un fath, gan fod gan bobman ei hunaniaeth a’i gryfderau unigryw ei hun.
Drwy gyfrwng ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern, ein nod yw adeiladu ar sail y cryfderau hyn mewn meysydd megis awyrofod, technoleg a gwyddorau bywyd, gan wneud Cymru yn un o’r ardaloedd mwyaf cystadleuol yn y DU er mwyn cychwyn a thyfu busnes.
Fe wnaethom lansio ein strategaeth ar ffurf Papur Gwyrdd gan fod arnom eisiau i hon fod yn sgwrs gyda busnesau a gweithwyr. Heddiw mae fy nhîm gweinidogol a minnau yn ymweld â Chymru er mwyn trafod sut gall y Llywodraeth weithio gyda busnes a’r byd academaidd i greu economi hynod fedrus sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Mae strategaeth ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU yn gynllun i bawb. Mae gan Gymru economi gystadleuol gref a thrwy dynnu ynghyd gallwn adeiladu ar sail ein cryfderau er mwyn sicrhau twf mewn sectorau allweddol ac mewn busnes yng Nghymru.
Mae angen inni sicrhau bod pobl ledled Cymru yn elwa yn sgil creu gweithlu cryf a hynod fedrus; dyna yw nod y strategaeth ddiwydiannol.
Bydd y Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson, yn ymweld â chwmni Renishaw Plc, sy’n arwain ar lefel fyd-eang ym maes peirianneg a thechnoleg wyddonol, tra bod yr Arglwydd Prior o Brampton yn ymweld â safle Tata Steel yn Shotton a’r cyfleuster awyrofod milwrol Raytheon.
Bydd y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd a Diwydiant, Nick Hurd, yn ymweld â safle Liberty Steel yng Nghasnewydd a’r cynhyrchwyr sment cynaliadwy Cenin Cement ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y Gweinidog Busnesau Bach a Defnyddwyr, Margot James, yn ymweld â chwmni bragu bach blaenllaw Tiny Rebels Brewery i ddysgu mwy am ei lwyddiannau diweddar wrth allforio, cyn ymweld â’r cwmni cynhyrchu animeiddio mwyaf yng Nghymru, Cloth Cat Animation. Yna bydd Margot yn rhan o drafodaeth bord gron er mwyn trafod y Strategaeth Ddiwydiannol o safbwynt y diwydiannau creadigol gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant creadigol yng Nghymru.
Yn ei Phapur Gwyrdd, Building our Industrial Strategy, mae’r Llywodraeth wedi amlinellu deg elfen i’w trafod yn rhan o gyfnod ymgynghori 12 wythnos o hyd, gan wahodd cyfraniadau gan ddiwydiannau, busnesau, grwpiau lleol a gweithwyr ledled Cymru.
Uchelgais glir y Papur Gwyrdd yw creu economi sy’n gweithio i bawb, ac mae’n cynnwys nifer o gyhoeddiadau arfaethedig a fydd er budd rhanbarthau Cymru, megis:
*Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol a sefydlu UKRI, gan greu cyfleoedd newydd i brifysgolion blaenllaw Cymru wneud cais am nawdd gan Lywodraeth y DU.
-
Cydnabod y rhagoriaeth o ran ymchwil ac arloesi sy’n bodoli ledled y DU, a buddsoddi £4.7 biliwn yn ychwanegol erbyn 2020–21.
-
Buddsoddi mewn seilwaith digidol, sydd wedi bod yn rhwystr i dwf economaidd ledled Cymru cyhyd.
-
Canfod ffordd gynaliadwy o gefnogi diwydiannau sy’n ddwys o ran eu defnydd o ynni, megis y diwydiant dur, â’u costau ynni.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi gwahoddiad agored i ddiwydiannau, busnesau a grwpiau lleol ledled Cymru ymweld â gwefan GOV.UK a chynorthwyo i osod y blaenoriaethau ar gyfer Strategaeth Ddiwydiannol fodern.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn parhau am 12 wythnos, ac wedi hynny bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion cyn cyhoeddi Papur Gwyn yn ddiweddarach eleni.
Nodiadau i Olygyddion
Elfennau’r Strategaeth Ddiwydiannol
Mae’r Papur Gwyrdd yn gofyn am safbwyntiau gan Gymru ar sut y gall y Llywodraeth fireinio ei gweledigaeth er mwyn helpu economi’r DU i gyflawni heriau a chyfleoedd y dyfodol. Dyma’r 10 elfen y mae’r Papur Gwyrdd yn gofyn am adborth arnynt:
- Buddsoddi mewn gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi – rhaid inni ddod yn economi fwy arloesol a gwneud mwy i fasnacheiddio ein sylfaen wyddoniaeth – sy’n arwain ar lefel fyd-eang – er mwyn sbarduno twf ledled y DU.
- Datblygu sgiliau – rhaid inni helpu pobl a busnesau i ffynnu drwy: sicrhau bod gan bawb y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen mewn economi fodern; adeiladu system newydd o addysg dechnegol er budd yr hanner hwnnw o’n pobl ifanc nad ydynt yn mynd i’r brifysgol; hybu sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg), sgiliau digidol a rhifedd; a chodi lefel sgiliau mewn meysydd sy’n araf o ran twf.
- Uwchraddio’r seilwaith – rhaid inni uwchraddio ein safonau perfformiad ar y seilwaith digidol, ynni, trafnidiaeth, dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd, a chreu gwell cyfatebiaeth rhwng buddsoddiadau seilwaith y llywodraeth ganolog a blaenoriaethau lleol o ran twf.
- Cefnogi busnesau i gychwyn ac i dyfu – rhaid inni sicrhau y gall busnesau ledled y DU gael gafael ar y sgiliau cyllid a rheoli y mae arnynt eu hangen er mwyn tyfu; a rhaid inni greu’r amodau iawn i gwmnïau fuddsoddi ar gyfer y tymor hir.
- Gwella caffael – rhaid inni ddefnyddio caffael strategol y llywodraeth er mwyn hybu arloesi a galluogi datblygu cadwynau cyflenwi’r DU.
- Annog masnach a mewnfuddsoddi – gall polisi’r llywodraeth helpu i hybu cynhyrchiant a thwf ledled ein heconomi, gan gynnwys drwy gynyddu cystadleuaeth a helpu i ddod â ffyrdd newydd o wneud pethau i’r DU.
- Darparu ynni fforddiadwy a thwf glân – mae angen inni gadw costau i lawr ar gyfer busnesau, a sicrhau buddiannau economaidd yn sgil trosi i economi sy’n isel o ran carbon.
- Meithrin sectorau a fydd yn arwain ar lefel fyd-eang – rhaid inni adeiladu ar y meysydd hynny lle mae gennym fantais gystadleuol, gan helpu sectorau newydd i ffynnu a herio sefydliadau presennol a’r rheini sydd â chyfran fawr o’r farchnad mewn sawl achos.
- Sbarduno twf ledled y wlad – byddwn yn creu fframwaith er mwyn adeiladu ar sail cryfderau penodol gwahanol leoedd a mynd i’r afael â ffactorau sy’n llesteirio twf mewn rhai lleoedd – boed hynny’n fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith allweddol er mwyn annog twf, cynyddu lefelau sgiliau neu gefnogi cryfderau arloesi lleol.
- Creu’r sefydliadau cywir i ddod â sectorau a lleoedd ynghyd – byddwn yn ystyried y strwythurau gorau i gefnogi pobl, diwydiannau a lleoedd. Mewn rhai lleoedd a sectorau mae’n bosibl bod sefydliadau y gallem eu creu sydd yn eisiau ar hyn o bryd, neu sefydliadau presennol y gallem eu cryfhau, boed hwy’n sefydliadau addysgol neu ddinesig lleol, yn gymdeithasau masnach neu’n rhwydweithiau ariannol.
Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn dwyn ynghyd y cyfrifoldebau ar gyfer busnes, strategaeth ddiwydiannol, gwyddoniaeth, arloesi, ynni a newid yn yr hinsawdd. Mae’r Adran yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer strategaeth ddiwydiannol uchelgeisiol, a pharhau i sicrhau bod y DU yn parhau i fod ar flaen y gad mewn gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi. Mae’r Adran yn arwain perthynas y Llywodraeth â busnes, ac mae’n gyfrifol am wella llywodraethu corfforaethol a sicrhau gwell canlyniadau i ddefnyddwyr. Rydym hefyd yn sicrhau bod gan y DU gyflenwadau ynni diogel sy’n ddibynadwy, yn fforddiadwy ac yn lân ac yn gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gan weithio mewn partneriaeth â’r gymuned fusnes.