Great British Nuclear i brynu dau safle Hitachi ar gyfer datblygiad niwclear newydd
Bydd tir yn cael ei brynu gan y llywodraeth fel sylfaen ar gyfer adfywiad niwclear.
Ar ddiwrnod hanesyddol i ddiogelwch ynni’r DU, rydym yn cyhoeddi bod Great British Nuclear (GBN) yn prynu tir gan Hitachi ar gyfer datblygiad niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn ac yn Oldbury-on-Severn yn Swydd Gaerloyw. Mae GBN hefyd wedi cyhoeddi heddiw bod y dogfennau tendro nawr ar gael i’r chwe chwmni ym mhroses Dewis Technoleg Adweithydd Modiwlar Bach (SMR) Great British Nuclear (GBN), felly bydd modd iddynt wneud cynnig am gontractau datblygu technoleg a allai fod werth biliynau o bunnoedd.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Llywodraeth ei Map Niwclear Sifil, sy’n nodi cynlluniau i roi hwb i ddiogelwch ynni’r DU a sicrhau allyriadau carbon sero net, gyda hyd at chwarter ynni Prydain yn cael ei gynhyrchu o bŵer niwclear erbyn 2050. Mae mynediad at safleoedd niwclear yn ffactor hanfodol os ydym am gyflawni’r targedau uchelgeisiol hyn ar gyfer ynni niwclear, sy’n cynnwys gosod adweithyddion modiwlar bach (SMR) ac edrych yn fanylach ar brosiect arall fydd yn cynnwys adweithydd ar raddfa fawr ar ôl Hinkley Point C a Sizewell C.
Mae GBN yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r cymunedau lleol yn y safleoedd hyn i drin a thrafod sut y bydd prosiectau niwclear newydd yn y dyfodol o fudd i’w cymunedau. Disgwylir diweddariadau pellach dros y misoedd nesaf wrth i’r broses o ddewis y dechnoleg ar gyfer adweithyddion modiwlar bach a rhaglen niwclear ehangach y Llywodraeth ddatblygu.
Dywedodd Claire Coutinho, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net:
Rydyn ni eisoes yn gwneud cynnydd o safbwynt ein hadfywiad niwclear, gan sicrhau dau safle sydd â llawer o botensial ar gyfer cyflwyno prosiectau newydd, a helpu i sicrhau’r datblygiad mwyaf ym maes niwclear mewn 70 mlynedd.
Mae gan Wylfa ac Oldbury-on-Severn hanes balch yn y byd niwclear a byddant yn elwa o fuddsoddiad lleol a swyddi medrus, ochr yn ochr â phŵer glanach a rhatach i gartrefi ledled y wlad.
Cyhoeddiad heddiw am y safleoedd yw’r cyntaf o gyfres y mae GBN – corff y llywodraeth sy’n gyfrifol am gyflawni’r cyfnod newydd hwn i niwclear Prydain – yn bwriadu ei wneud. Ei nod yw cefnogi ymrwymiadau hirdymor y Map Niwclear Sifil a’r broses o ddewis adweithyddion modiwlar bach.
Bydd GBN yn canolbwyntio ar safleoedd fel Wylfa ac Oldbury i ddechrau ac wedyn o bosibl safleoedd eraill sydd â hanes balch o ymwneud â diwydiant niwclear y DU. Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ar sut mae’n mynd i ymdrin â safleoedd niwclear yn y dyfodol, a gallai safleoedd sydd ddim yn rhai niwclear gael eu hystyried yn nes ymlaen.
Dywedodd Andrew Bowie, y Gweinidog dros Niwclear:
Mae hwn yn gam mawr ymlaen i adfywiad niwclear y DU.
Rydyn ni’n dod â niwclear yn ôl i safleoedd hanesyddol Wylfa ac Oldbury – a bydd yn dod â swyddi, buddsoddiad ac ynni glân yn ei sgil.
Dywedodd Gwen Parry-Jones, Prif Weithredwr GBN, fod y newyddion yn garreg filltir ar gyfer datblygiadau niwclear newydd yn y DU.
Mae gan y ddau safle yn Wylfa ac Oldbury botensial aruthrol. Maen nhw’n cynnig cyfle sylweddol i Brydain ac i gymunedau lleol. Mae diwydiant niwclear y DU yn rhan o hanes y ddau le, ac maen nhw wedi profi’r manteision enfawr y gall pŵer niwclear eu cynnig i’r economi, yn lleol ac yn rhanbarthol. Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi sut mae Hitachi wedi datblygu’r safleoedd, a’u gwaith hyd yma oedd un o’r rhesymau pam eu bod mor ddeniadol i ni.
Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â phob cymuned, gan obeithio y bydd trafodaethau hir ac adeiladol yn cael eu cynnal. Wrth i’n syniadau ddatblygu, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion lleol a’u cynrychiolwyr yn ardaloedd Wylfa ac Oldbury.
Dywedodd Alistair Dormer, Is-lywydd Gweithredol Ynni a Symudedd, Hitachi Ltd.:
Rydyn ni mor falch bod Great British Nuclear wedi dewis Wylfa ac Oldbury, dau le pwysig i niwclear yn y DU. Mae Hitachi wedi bod yn cynnal a chadw’r safleoedd dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau eu dyfodol fel rhan o’r dasg bwysig o drawsnewid ynni yn y DU am ddegawdau i ddod.
Bydd GBN yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr lleol y tirfeddianwyr blaenorol i sicrhau pwynt cyswllt lleol a bod y safle’n parhau i gael ei rheoli. Bydd GBN hefyd yn lansio gwefan ar gyfer y prosiect ac yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus. Mae hefyd yn ymrwymo i ffurfio Fforwm Cymunedol yn Wylfa ac Oldbury.
Ar ben hynny, mae cam nesaf proses dewis technoleg GBN bellach yn fyw. Nawr mae modd i gwmnïau cymwys sy’n awyddus i gyflwyno cynnig gael gafael ar wybodaeth fanwl, a bydd ganddynt tan fis Mehefin i gyflwyno eu hymatebion i’r tendr. Bydd GBN yn asesu’r rhain i benderfynu pa gynigwyr i negodi â nhw, cyn gwahodd y cynigwyr hynny i gyflwyno tendrau terfynol, gyda’r nod o gyhoeddi pwy sydd wedi bod yn llwyddiannus yn nes ymlaen yn 2024.
Fel y cyhoeddwyd ym mis Hydref, dyma’r cwmnïau a gafodd eu gwahodd i dendro: EDF Energy, GE-Hitachi Nuclear Energy International LLC, Holtec Britain Limited, NuScale Power, Rolls-Royce SMR a Westinghouse Electric Company UK Limited. Bydd gan y cwmnïau tan fis Mehefin i gyflwyno eu hymatebion i’r tendr. Bydd GBN yn asesu’r rhain ac yn negodi’r contractau terfynol, cyn cyhoeddi pwy sydd wedi bod yn llwyddiannus yn nes ymlaen yn 2024.
Bydd safleoedd yn cael eu pennu ar gyfer technolegau’r ymgeiswyr llwyddiannus a byddant yn cael eu cynnwys mewn prosiectau. Bydd y cynigwyr yn cael cyllid i ddatblygu eu technoleg hefyd.
Wrth siarad am y cyhoeddiad ynglŷn â Dewis Technoleg SMR, dywedodd Gwen Parry-Jones, Prif Weithredwr GBN:
Yn ogystal â hyn, mae’r ffaith ein bod yn gwahodd cwmnïau i dendro ar gyfer y broses o ddewis SMR yn dangos ein bod yn gweithio i amserlen uchelgeisiol – y gyflymaf yn y farchnad hyd yma ar lefel fyd-eang – er mwyn cael proses gaffael gadarn a llwyddiannus sy’n sicrhau gwerth i’r trethdalwr.
Mae cyhoeddiadau heddiw yn gamau pwysig yn y gwaith o ddatblygu pŵer niwclear newydd yn y DU.
Nodiadau i Olygyddion
- Ers haf 2023, mae GBN wedi bod yn cynnal proses i ddewis technolegau adweithyddion modiwlar bach sydd yn y sefyllfa orau i fod yn weithredol erbyn canol y 2030au. Mae’r adweithyddion hyn yn fersiynau llai o’r mathau o orsafoedd pŵer niwclear mawr sydd ar waith o amgylch y wlad ar hyn o bryd.
- Yn ei Map Niwclear, ymrwymodd y Llywodraeth i ystyried prosiect arall oedd yn cynnwys adweithydd ar raddfa fawr, y tu hwnt i Sizewell C.
- Mae’r Llywodraeth hefyd yn ymgynghori ar lwybrau amgen i’r farchnad ar gyfer prosiectau niwclear, ac mae mwy o ddefnydd ar gyfer adweithyddion uwch arloesol yn cael ei ystyried fel rhan o ymgynghoriad cyfredol gan y llywodraeth.
- Mae Great British Nuclear (GBN) yn gorff hyd braich o’r llywodraeth sydd wedi’i greu i fwrw ymlaen â’r gwaith o gyflawni capasiti cynhyrchu niwclear newydd yn y DU.
- Lansiodd GBN broses gystadleuol ym mis Ebrill 2023 i ddewis y technolegau priodol ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach, gyda’r bwriad o’u dewis yn derfynol yn nes ymlaen yn 2024 er mwyn mynd â dau brosiect adweithyddion modiwlaidd bach i Benderfyniad Buddsoddi Terfynol erbyn 2029.
- Roedd Map Niwclear diweddar y llywodraeth yn egluro mai rôl gychwynnol GBN yw cwblhau’r gystadleuaeth adweithyddion modiwlar bach. Roedd y Map hefyd yn nodi’n glir y byddai gan GBN rôl ehangach o ran cyflawni rhannau eraill o raglen niwclear sifil y llywodraeth. Trydedd rôl GBN fyddai bod yn gynghorydd niwclear arbenigol i’r llywodraeth ar ystod eang o rwystrau rhag buddsoddi yn y sector a’r diwydiant, a defnyddio strategaeth niwclear y tu hwnt i’r rhaglen adweithyddion modiwlar bach.
- I’r perwyl hwn, mae GBN wedi dechrau ymgyrch recriwtio a bydd yn mynd o fod â gweithlu o weithwyr ar secondiad i fod â gweithlu o weithwyr amser llawn yn ystod 2024/25.
Cyswllt
John McNamara