Twf gwyrdd i Gymru wrth i lywodraeth y DU gyhoeddi buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd i roi hwb i annibyniaeth ynni’r DU
Bydd cynlluniau yma yn helpu i gyflawni addewid y Prif Weinidog i dyfu’r economi ledled Cymru.
Twf gwyrdd i Gymru wrth i lywodraeth y DU gyhoeddi buddsoddiad gwerth biliynau o bunnoedd i roi hwb i annibyniaeth ynni’r DU
Bydd swyddi a buddsoddiad newydd yn dod i Gymru wrth i Lywodraeth y DU ddatgelu cynlluniau uchelgeisiol heddiw i uwchraddio pŵer fforddiadwy, glân a brodorol ac adeiladu diwydiannau gwyrdd ffyniannus ym Mhrydain.
Ar ôl degawdau o ddibynnu ar fewnforio tanwyddau ffosil drud a thramor, mae’r Llywodraeth yn cyflwyno newid radical yn ein system ynni at ffynonellau ynni glanach, mwy fforddiadwy i bweru mwy o Brydain gydag ynni o Brydain.
Bydd technolegau gwyrdd newydd, a fydd yn cael eu datblygu a’u defnyddio yma yng Nghymru, gan gynnwys dal, defnyddio a storio carbon a hydrogen (CCUS), yn arwain Cynllun Diogelwch Ynni newydd y llywodraeth.
Fel rhan o hyn, drwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Gweithgynhyrchu ym Maes Ynni Gwynt ar y Môr, mae Grant Shapps yn cyhoeddi £160 miliwn o gyllid newydd ar gyfer prosiectau peilot i adeiladu seilwaith y porthladdoedd sy’n angenrheidiol i gefnogi rhagor o ffermydd ynni gwynt ar y môr. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi buddsoddiad yn y seilwaith sydd ei angen i gyflawni uchelgais y DU o hyd at 5GW o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030, wedi’i gefnogi gan biblinell sylweddol o brosiectau posibl yn y Môr Celtaidd.
Heddiw, cadarnhaodd Llywodraeth y DU brosiect casglu a storio carbon Hanson Padeswood Cement Works – wedi’i leoli yn rhanbarth Gogledd Cymru – fel un o’r wyth prosiect a fydd yn symud ymlaen i’r cam trafodaethau i fod yn sail i glystyrau CCUS newydd y DU.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn cadarnhad yng Nghyllideb y Gwanwyn o £20 biliwn ar gyfer CCUS, gan ddiogelu swyddi yn y cadarnleoedd diwydiannol, gan gynnwys Môr y Gogledd, a fydd yn helpu i greu a chefnogi hanner miliwn o swyddi gwyrdd newydd ledled y wlad.
Mae CCUS yn un o bileri allweddol llwybr y DU at sero net – sy’n cael ei gydnabod gan y Pwyllgor annibynnol ar Newid Hinsawdd fel rheidrwydd – ac mae daearyddiaeth y wlad yn golygu ei bod yn gallu storio allyriadau carbon sy’n cael eu cymryd o’n haer yn ddwfn o dan y ddaear ac yn y môr yn barhaol.
Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak:
Diolch i’n daearyddiaeth unigryw a’n harbenigedd cryf mewn technoleg lân, mae’r DU mewn sefyllfa dda i greu diwydiannau newydd sy’n ffynnu o ran dal carbon, hydrogen a gwynt ar y môr ledled y wlad.
Drwy fuddsoddi mewn ffyrdd newydd o bweru Prydain, byddwn nid yn unig yn cryfhau ein diogelwch ynni yn y tymor hir, ond byddwn hefyd yn cyflawni ein haddewid i dyfu’r economi gyda swyddi sy’n talu’n dda a chyfleoedd i fusnesau allforio eu harbenigedd ledled y byd.
Dywedodd Graham Stuart, y Gweinidog Diogelwch Ynni a Sero Net:
Bydd Cymru wrth galon ein cynlluniau i bweru Prydain, wrth i ni gefnogi’r gwaith o ddatblygu technolegau brodorol newydd ar gyfer y dyfodol.
Bydd cyhoeddiad heddiw yn creu cyfleoedd i fusnesau Cymru allforio eu harbenigedd o amgylch y byd a gosod y safon ar gyfer dyfodol glân, diogel a ffyniannus.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae cynllun Diogelwch Ynni Llywodraeth y DU yn uchelgeisiol ac yn cynnwys newyddion gwych i Gymru gyfan. Rydyn ni’n gwybod fod potensial enfawr yn y Môr Celtaidd ar gyfer seilwaith ynni gwynt ar y môr ac mae gennym y safleoedd gorau ar gyfer datblygiadau niwclear newydd.
Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi cynlluniau i’r Môr Celtaidd ddarparu digon o drydan glân a diogel ar gyfer 4 miliwn o gartrefi erbyn 2035. Heddiw, fe wnaethom gyhoeddi £160m o gyllid gan y llywodraeth i ddechrau buddsoddi yn y gwaith o adeiladu’r seilwaith mewn porthladdoedd er mwyn iddynt allu darparu’r ffynhonnell arloesol hon o ynni adnewyddadwy.
Bydd sefydlu Great British Nuclear yn cefnogi ein huchelgais i gynyddu capasiti niwclear yn y DU i chwarter ein galw am ynni erbyn 2050. Rydw i’n awyddus i weld ynni niwclear yn dod yn ôl i Gymru a datblygu diwydiant ynni gwynt ar y môr, gan greu swyddi, lledaenu twf a ffyniant a sicrhau ein cyflenwad ynni.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gosod uchelgais ar gyfer cynhyrchu 10GW o hydrogen erbyn 2030 – a allai gynhyrchu digon o drydan glân i bweru Llundain gyfan am flwyddyn.
Bydd Cymru yn ganolog i’r cynlluniau hyn, lle bydd un o ymgeiswyr llwyddiannus cyntaf y Gronfa Hydrogen Sero Net gwerth £240 miliwn wedi’i lleoli. Bydd pymtheg prosiect yn cael cyllid grant o £37.9m i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a defnyddio gorsafoedd cynhyrchu hydrogen carbon isel newydd. Bydd hydrogen yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o helpu diwydiannau dwys fel cemegau, dur a throsi sment i ddefnyddio ynni glân.
Y prosiect llwyddiannus yw prosiect Dyffryn Hydrogen Gwyrdd Statkraft. Mae’n bwriadu adeiladu system electrolyser 15MW i gynhyrchu hydrogen gwyrdd, gan ddefnyddio adnoddau gwynt a solar rhagorol y rhanbarth i gynhyrchu tanwydd cynaliadwy ar gyfer trafnidiaeth a defnydd diwydiannol arall.
Ochr yn ochr â hyn, mae tri chwmni yng Nghymru wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cam nesaf y rownd gyntaf dyrannu hydrogen electrolytig (HAR1).
Sef:
- RES and Octopus Green Hydrogen
- Marubeni Europower
- H2 energy a Trafigura
Bydd cynlluniau heddiw yn helpu i gyflawni addewid y Prif Weinidog i dyfu’r economi ledled Cymru, gan gefnogi swyddi gwyrdd newydd, creu mantais strategol mewn diwydiannau glân newydd a chreu cyfleoedd i fusnesau Cymru allforio eu harbenigedd ledled y byd.