Stori newyddion

Helpwch ni i gyfri ardrethi busnes yn gywir

Rydym yn anfon allan ffurflenni at drethdalwyr o fis Ionawr yn gofyn am wybodaeth ynghylch eu heiddo a busnes.

Image of someone signing a form

Wrth baratoi ar gyfer yr Ail-brisiad 2017, ‘rydym yn anfon allan ffurflenni at drethdalwyr o fis Ionawr yn gofyn am wybodaeth ynghylch eu heiddo a busnes. Mae hyn yn ein helpu i ddiweddaru gwerthoedd ardrethol pob eiddo busnes ddefnyddir gan gynghorau er mwyn cyfri yr ardrethi busnes maent yn eu talu.

Os derbyniwch un o’r ffurflenni, a fuasech gystal â’i chwblhau a dychwelyd yn brydlon ac yn gywir os gwelwch yn dda oherwydd gall methu â gwneud yn arwain at dalu’r cyfanswm anghywir mewn ardrethi busnes. Hefyd gall olygu dirwy o £100 os na dychwelwch o fewn 56 diwrnod.

Daw’r ail-brisiad nesaf i rym ar 1 Ebrill 2017 bydd yn asesu pob eiddo busnes yn Lloegr a Chymru, yn seiliedig ar y gwerth rhentu fel ag ar 1 Ebrill 2015.

Cewch fwy o wybodaeth ar ardrethu busnes yma

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2015