Cofrestrfa Tir EF yn ceisio barn ar ei ffïoedd
Mae’r sefydliad yn ceisio barn ar yr egwyddorion ar gyfer gosod ffïoedd, gan gynnwys ei wasanaethau data.
- Mae Cofrestrfa Tir EF yn adolygu’r strwythur sy’n sail i’r ffordd caiff ffïoedd eu pennu.
- Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar egwyddorion allweddol cynyddu’r ffyrdd o gyrchu data a symleiddio ffïoedd.
- Mae’r alwad am dystiolaeth ar agor am 4 wythnos, gan gau ar 5 Ebrill 2024.
Heddiw (8 Mawrth 2024) mae Cofrestrfa Tir EF yn lansio galwad am dystiolaeth Strwythur Ffïoedd a Chodi Tâl ar gyfer y Dyfodol fel rhan o adolygiad o’r dull presennol o bennu ffïoedd ar gyfer ei data a’i gwasanaethau. Mae llawer o’r farn bod y strwythur ffïoedd a chodi tâl presennol yn gymhleth. Fodd bynnag, nid yw wedi ei ddiwygio’n sylweddol ers dechrau’r sefydliad ym 1862.
Bydd yr adolygiad yn edrych ar sut gellir gwella strwythur ffïoedd a chodi tâl Cofrestrfa Tir EF trwy ofyn i ymatebwyr ateb cwestiynau yn seiliedig ar dair thema.
- Moderneiddio a symleiddio’r strwythur ffïoedd.
- Sicrhau bod ffïoedd yn deg ac yn rhesymol.
- Cefnogi’r agenda gwybodaeth am dir ac eiddo ac annog arloesedd trwy ddulliau gwell a mwy agored o gyrchu’n data.
Bydd yr alwad am dystiolaeth yn para tan 5 Ebrill. Ar ôl hynny, bydd y sefydliad yn ymateb yn fanwl ar gamau nesaf yr adolygiad.
Dywedodd Simon Hayes, Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir:
Mae ein strwythur ffïoedd a chodi tâl wedi dod yn ddiangen o gymhleth. Rydym am geisio barn cynulleidfa eang i sicrhau bod y ffordd rydym yn codi tâl am ein gwasanaethau’n cefnogi’n cwsmeriaid yn ogystal â chyflawni’n Strategaeth 2022+.
Gwybodaeth bellach
I ddarllen yr ymgynghoriad, ewch i Strwythur ffïoedd a chodi tâl Cofrestrfa Tir EF.