GLlTEF yn penodi cyfarwyddwr anweithredol newydd
Penodwyd Luisa Fulci i Fwrdd GLlTEF gan yr Arglwydd Ganghellor, yr Arglwyddes Brif Ustus ac Uwch Lywydd y Tribiwnlysoedd.
Mae Luisa yn dod â phrofiad masnachol a phrofiad o drawsnewid digidol o fewn sefydliadau sy’n wynebu cwsmeriaid gyda hi, ac mae ganddi 10 mlynedd o brofiad yn gweithredu ar lefel bwrdd.
Ar hyn o bryd, mae Luisa yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol, Cwsmeriaid a Masnachol ar gyfer Cyngor Metropolitan Dudley. Cyn ymgymryd â’i rôl gyda GLlTEF, roedd hi hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Prifysgol Ysbyty Dwyrain Caint.
Dywedodd Syr Richard Broadbent, Cadeirydd Bwrdd GLlTEF:
Rwy’n croesawu Luisa fel un o ddau Gyfarwyddwr Anweithredol newydd a benodwyd yn ddiweddar i Fwrdd GLlTEF. Rwy’n hyderus y bydd profiad gweithredol hir a pharhaus Luisa wrth reoli newid trawsnewidiol, digideiddio a pherthnasoedd cwsmeriaid yn ychwanegu llawer o werth i’r Bwrdd.
Bydd Luisa yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Ebrill 2024.
Mae Bwrdd GLlTEF yn gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar weithrediadau GLlTEF.
Rôl cyfarwyddwyr anweithredol yw cyfrannu at berfformiad effeithiol y Bwrdd drwy:
- fonitro perfformiad gweithredol ac adnabod meysydd tanberfformio posibl
- cyfrannu a goruchwylio datblygiad y strategaeth
- sicrhau safonau uchel o lywodraethu corfforaethol
- sicrhau bod rheolaethau priodol ar waith i reoli risgiau.
Gallwch ddarllen mwy am ein llywodraethiant, a Bwrdd GLlTEF, ar ein tudalennau GOV.UK.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 28 Mawrth 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Ebrill 2024 + show all updates
-
Added translation
-
First published.