Ymateb y llywodraeth

GLlTEM yn cyhoeddi ymateb i’r adroddiad ar ddefnyddio data

Mae GLlTEM yn croesawu argymhellion adroddiad Dr Natalie Byrom.

Photograph of people sitting around a desk in office

Heddiw (2 Hydref 2019) mae Dr Natalie Byrom, y Cyfarwyddwr Ymchwil a Dysgu yn y Sefydliad Addysg Cyfreithiol (TLEF), wedi cyhoeddi canfyddiadau ac argymhellion ei hadroddiad ar sut mae Rhaglen Ddiwygio GLlTEM yn defnyddio data.

Cysylltodd GLlTEM â Dr Byrom yn ystod yr hydref 2018 i ymgynghori ar strategaethau i wella ymgysylltiad y sefydliad â’r byd academaidd, a gwella’r ffordd mae’n rhyddhau data at ddibenion ymchwil, gan fod y sefydliad wedi cydnabod ers peth amser fod y rhain yn meysydd i’w blaenoriaethu.

Mae adroddiad heddiw yn nodi cwblhau’r gwaith ymchwil hanfodol hwn.

Susan Acland-Hood responds to Dr Natalie Byrom report

Yn ei hymateb i adroddiad heddiw, dywedodd Susan Acland-Hood:

Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Natalie am ei gwaith caled a’i hymroddiad i ddarparu’r adroddiad hwn. Rwy’n croesawu ei chanfyddiadau a’i hargymhellion, a fydd yn hanfodol i lywio’r ffordd y byddwn yn parhau i gasglu a rheoli data a’i roi ar waith i danategu’r Rhaglen Ddiwygio, yn enwedig o ran y ffordd y byddwn yn gwerthuso’r rhaglen.

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd mewn llawer o’r meysydd a amlygwyd ac, ar y cyd â’r uwch farnwriaeth a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, byddwn yn edrych ar yr holl argymhellion yn ofalus cyn pennu ein cynlluniau’n llawn.

Meddai Prif Weithredwr TLEF, Matthew Smerdon:

Mae’r sefydliad yn credu ei fod yn hanfodol bod pobl yn gallu deall a defnyddio’r gyfraith, sy’n golygu bod yn rhaid i benderfyniadau ynghylch darparu mynediad at gyfiawnder fod yn seiliedig ar dystiolaeth clir a chadarn. Mae fy nghydweithiwr Dr Natalie Byrom wedi datblygu arbenigedd unigryw yn y maes hwn, trwy ei gwaith a’i hymchwil helaeth.

Rydym wrth ein boddau bod GLlTEM wedi gwahodd Natalie i weithredu fel arbenigwraig annibynnol ar y Rhaglen Ddiwygio, sy’n dangos ymrwymiad y prif weithredwr, Susan Acland-Hood, a’i thîm i ddarparu cyfiawnder i holl ddefnyddwyr y llysoedd.

Cyhoeddir adroddiad terfynol ac argymhellion Dr Byrom isod.

Digital Justice: HMCTS data strategy and delivering access to justice

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email [email protected]. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Yn gynharach eleni ysgrifennodd Syr Richard Heaton, Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, at gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn cyhoeddi panel ymgynghorol allanol ar gyfer gwerthuso’r Rhaglen Ddiwygio. Bydd Dr Byrom yn eistedd fel aelod o’r panel, sy’n un o sawl ffordd y mae tystiolaeth a data yn cael eu defnyddio i asesu effaith y rhaglen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Hydref 2019