CThEF yn lansio Offeryn Amcangyfrif TAW
CThEF yn lansio Offeryn Amcangyfrif TAW
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi lansio offeryn digidol i helpu busnesau i amcangyfrif beth allai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu iddyn nhw.
Mae’r Offeryn Amcangyfrif TAW yn deillio o adborth busnesau bach a awgrymodd y byddai offeryn ar-lein yn ddefnyddiol i ddangos pryd y gallai eu trosiant olygu bod angen i fusnesau gofrestru ar gyfer TAW a’i heffaith ar elw.
Mae’n rhaid i fusnes gofrestru ar gyfer TAW os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae cyfanswm ei drosiant trethadwy TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf yn fwy na £90,000 - sef y ‘trothwy TAW’ - roedd hyn yn £85,000 tan 31 Mawrth 2024.
- mae disgwyl i’w drosiant fod yn uwch na’r trothwy TAW o £90,000 yn ystod y 30 diwrnod nesaf.
- mae’n fusnes tramor sydd heb ei leoli yn y DU ac sy’n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i’r DU (neu yn disgwyl gwneud hynny yn ystod y 30 diwrnod nesaf) – waeth beth yw ei drosiant TAW.
Mae’n rhaid i fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW godi TAW ar werthiannau cymwys. Fel arfer, gall adhawlio TAW ar bryniannau cymwys. Mae tua 300,000 o gofrestriadau TAW newydd bob blwyddyn.
Gall yr offeryn newydd helpu unrhyw fusnes i weld beth allai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu, yn ogystal â rhoi cysylltiadau i wybodaeth bellach iddynt ynghylch y broses gofrestru. Mae hefyd yn offeryn defnyddiol i fusnesau sy’n gweithredu o dan y trothwy ac sy’n ystyried cofrestru’n wirfoddol.
Meddai Jonathan Athow, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid:
Ry’n ni’n gwybod bod y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid am gael eu treth yn iawn. Ry’n ni wedi gwrando ar fusnesau ac mae’r offeryn newydd yma am eu helpu i ddeall hyd a lled cofrestru ar gyfer TAW.
Mae’r Offeryn Amcangyfrif TAW yn ffrwyth llafur busnesau bach a chynrychiolwyr masnach sydd wedi cynnal gwaith profi ac wedi rhoi adborth arno cyn ei lansio.
Gobeithiwn y bydd o gymorth i fusnesau gael gwell dealltwriaeth o gofrestru ar gyfer TAW, law yn llaw â’r arweiniad a’r gwasanaethau eraill sydd ar gael.
Meddai Kevin Sefton, aelod o’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB):
Mae angen i fusnesau ddeall TAW cyn cyrraedd y trothwyon treth. Gall offerynnau ac arweiniad eu helpu i baratoi. Rwy’n falch o weld CThEF yn cyflwyno’r offeryn newydd hwn a fydd yn helpu busnesau i ddeall eu gwahanol fathau o gyflenwadau, a’r goblygiadau TAW posib.
Meddai Karen Thomson, aelod o’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) hefyd:
Gwnes i wirfoddoli i brofi’r offeryn TAW newydd. Dydw i ddim yn arbenigwr TAW felly es i ati fel pe bawn i’n fusnes heb unrhyw ddealltwriaeth o TAW.
Ar ôl gwneud ambell awgrym, ar y cyd â’r rhanddeiliaid eraill, dwi wedi defnyddio’r offeryn terfynol ac yn ei weld yn ddefnyddiol iawn. Rwy’n hoffi’r ffaith bod enghreifftiau’n cael eu rhoi pan ofynnir i chi roi gwybodaeth a bod cysylltiadau cyflym i arweiniad lle bo angen a help i lenwi’r blychau.
Mae llawer o waith caled wedi’i wneud ar yr offeryn hwn, ac rwy’n credu bod safbwyntiau rhanddeiliaid wedi cael eu hystyried, i sicrhau bod y cwsmer yn cael y profiad gorau posib.
Sut i ddefnyddio’r Offeryn Amcangyfrif TAW:
Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi gael gwybodaeth am incwm a chostau eich busnes wrth law, a’r cyfraddau TAW sy’n berthnasol iddynt.
- Darllenwch yr wybodaeth ar-lein am yr Offeryn Amcangyfrif TAW a defnyddiwch y cysylltiadau i’r arweiniad i gael rhagor o wybodaeth.
- Nodwch a yw’r busnes wedi’i leoli yn y DU, neu os bydd y busnes yn cael ei leoli yno.
- Nodwch amcangyfrif o’ch incwm busnes a chostau busnes ar gyfer y cyfnod dan sylw hyd at 12 mis. Gallwch hefyd ddefnyddio hwn os ydych yn sefydlu busnes newydd.
- Defnyddiwch y cysylltiadau yn yr arweiniad er mwyn dewis cyfraddau TAW incwm a chostau eich busnes. Cewch amcangyfrif o ganran cyfradd TAW eich nwyddau a gwasanaethau, naill ai ar gyfradd sero, ar gyfradd is neu safonol, neu byddant wedi’u heithrio rhag TAW yn llwyr.
-
Yna, nodwch a fyddai’n well gennych ychwanegu TAW at eich pris gwerthu presennol neu amcangyfrifedig, neu ei hymgorffori i’r pris hwnnw.
- Gwiriwch eich atebion a llenwch y ffurflen i weld y canlyniadau – bydd modd eu cadw a’u hargraffu.
Gallwch ddefnyddio’r offeryn amcangyfrif ar unrhyw adeg. Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio a dylai gymryd tua 20 munud i’w lenwi am y tro cyntaf. Gallwch fynd at yr offeryn drwy dudalennau arweiniad GOV.UK, yn hytrach na drwy Borth y Llywodraeth. Ni fydd CThEF yn cofnodi’r manylion y byddwch yn eu nodi.
Offeryn a ddyluniwyd i’ch helpu chi i benderfynu a yw cofrestru ar gyfer TAW yn iawn i’ch busnes yw’r Offeryn Amcangyfrif TAW sy’n gadael i chi arbrofi â gwahanol fewnbynnau ac allbynnau. Nid yw’n gallu cynnig cyngor penodol i’ch busnes.
Further information
Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘VAT Registration Estimator’ i gael mynediad at yr offeryn neu gallwch glicio ar: https://www.gov.uk/guidance/check-what-registering-for-vat-may-mean-for-your-business.cy neu gallwch glicio ar y tab ‘VAT’ tab yn: https://www.gov.uk/guidance/hmrc-tools-and-calculators
Bydd sesiynau ar yr Offeryn amcangyfrif TAW yn dod i ben ar ôl 15 munud o anweithgarwch, fel sy’n arferol i wasanaethau ar-lein o’r fath.
Mae’r offeryn hwn yn amcangyfrif beth y gallai cofrestru ar gyfer TAW ei olygu i’ch busnes. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer TAW, ni ddylech ddefnyddio’r ffigurau amcangyfrifedig a gynhyrchir i lenwi eich Ffurflen TAW.
Bydd CThEF yn cynnal gweminar fyw ar 24 Gorffennaf 2024 i esbonio sut i ddefnyddio’r offeryn. Bydd yn cael ei recordio ac ar gael i’w gwylio ar alw. Bydd manylion am y gweminarau byw a’r recordiadau ar gael yn yr adran ‘help and support for VAT’ ar dudalennau arweiniad GOV.UK https://www.gov.uk/guidance/help-and-support-for-vat
Os ydych yn ‘fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW’: - pan fyddwch yn gwerthu eich cynnyrch neu’n darparu gwasanaeth i’ch cwsmeriaid, os yw’r nwyddau neu’r gwasanaethau yn agored i TAW, mae’n rhaid i chi godi TAW ar eich pris gwerthu.
-
pan fyddwch yn prynu nwyddau neu wasanaethau i’ch busnes, fel arfer gallwch adhawlio’r TAW a godir arnoch, os byddwch yn eu prynu gan ‘fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW’.
-
Os ydych wedi codi mwy o TAW ar eich gwerthiannau nag yr ydych wedi’i thalu ar eich pryniannau, mae’n rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth i CThEF.
-
Os ydych wedi talu mwy o TAW ar eich pryniannau nag ydych wedi’i chodi ar eich gwerthiannau, fel arfer, gallwch hawlio’r ‘Ad-daliad TAW’ hwn oddi wrth CThEF ar eich Ffurflen TAW.
Gallwch ddysgu rhagor am gofrestru ar gyfer TAW yn: www.gov.uk/cofrestru-ar-gyfer-taw a www.gov.uk/sut-mae-taw-yn-gweithio
Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn cofrestru ar gyfer TAW. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi i Borth y Llywodraeth am y tro cyntaf.
Mae’n rhaid i’r mwyafrif o fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW gadw cofnodion TAW digidol a defnyddio meddalwedd i gyflwyno’u Ffurflenni TAW. Ceir rhagor o wybodaeth yn: https://www.gov.uk/codi-adennill-cofnodi-taw
Mae’r rhan fwyaf o fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn cyflwyno Ffurflen TAW bob 3 mis (yn chwarterol).
O 1 Ebrill 2024, y trothwy cofrestru ar gyfer TAW yw £90,000 a’r trothwy datgofrestru ar gyfer TAW yw £88,000.
Mae’r Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol (ABAB) yn fwrdd annibynnol ac mae eu haelodau’n dod o ystod eang o fusnesau a phroffesiynau sy’n cynrychioli’r gymuned busnesau bach. Mae ABAB yn cefnogi CThEF i helpu i wneud treth yn haws, yn gyflymach ac yn symlach i fusnesau bach. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/groups/administrative-burden-advisory-board
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Gorffennaf 2024 + show all updates
-
Added translation
-
First published.