Gwelliant i ddiogelwch safle a mynediad yn Nhŷ'r Cwmnïau Caerdydd
Mae'r gwaith o adeiladu mynedfa newydd i wella diogelwch y safle a mynediad yn ein safle yng Nghaerdydd bellach wedi ei gwblhau.
Ni fydd modd i aelodau o’r cyhoedd gael mynediad i’r safle a’r dderbynfa yn Nhŷ’r Cwmnïau, Caerdydd bellach, heb ganiatâd penodol. O ddydd Llun 3 Hydref 2022 ymlaen, rhaid i gwsmeriaid sydd am gyflwyno dogfennau i’n swyddfa yng Nghaerdydd ddefnyddio’r blwch post ger porthdy’r fynedfa.
Mae’r newid hwn yn dilyn diweddariad diweddar i wasanaethau cownter Tŷ’r Cwmnïau. Bydd mynediad i’r cyhoedd a danfoniadau yn aros yr un fath yn ein swyddfeydd ym Melfast a Chaeredin nes y clywir yn wahanol.
Tŷ’r Cwmnïau – Amseroedd mynediad ac agor swyddfa
Ffeilio gwybodaeth ar gyfer eich cwmni
Mae’n haws ac yn gyflymach i ffeilio eich gwybodaeth ar-lein. Gallwch:
Dysgwch ragor am fanteision ffeilio ar-lein.