Diweddariad ynghylch Cyfleusterau Mewndirol wrth y Ffin
Cyhoeddodd Cyllid a Thollau EM (CThEM) heddiw bod dau Gyfleuster Mewndirol Wrth y Ffin (IBFs) dros dro yn mynd i gau yn gynnar ym mis Tachwedd 2022.
Cyhoeddodd Cyllid a Thollau EM (CThEM) heddiw bod dau Gyfleuster Mewndirol Wrth y Ffin (IBFs) dros dro yn mynd i gau yn gynnar ym mis Tachwedd 2022.
Bydd y ddau safle IBF dros dro, Warrington ac Ebbsfleet, yn cau ar 13 Tachwedd a 27 Tachwedd, yn y drefn honno, yn dilyn cau IBF Birmingham ac IBF North Weald yn gynharach eleni.
Mae IBFau yn galluogi CThEM i gynnal gwiriadau o ddogfennau ac archwiliadau ffisegol i ffwrdd o borthladdoedd mwyaf prysur y DU i helpu gyda llif y nwyddau i mewn ac allan o’r DU.
Dangosodd profion yn IBFau Sevington a Caergybi y gall y ddau gyfleuster mwy hyn delio â’r holl draffig IBF heb gymorth y safleoedd llai. Felly, bydd IBFau Ebbsfleet a Warrington yn cau cyn y dyddiad cau arfaethedig ym mis Rhagfyr.
Meddai Claire Dartington, Cyfarwyddwr Ffiniau a Masnachu, CThEM:
Mae Cyfleusterau Mewndirol Wrth y Ffin yn cael eu hadolygu’n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi gwerth am arian ac yn bodloni gofynion llif y traffig.
Bydd cau’r ddau IBF hyn yn gynt na’r disgwyl yn golygu y gellir defnyddio arian trethdalwyr mewn mannau eraill.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Hydref 2022 + show all updates
-
Statement has been updated
-
Added translation