Buddsoddiad o Israel yn creu hyd at 100 o swyddi yn ne Cymru
Stephen Crabb: "Mae ein sector technoleg arloesol yn helpu i ddenu buddsoddiad tramor a chreu swyddi yng Nghymru"
Heddiw, mae cwmnïau o Israel wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £3miliwn yn ne Cymru yn ogystal â chynlluniau i dyfu a allai arwain at greu hyd at 100 o swyddi a £13miliwn yn cael ei wario gyda chyflenwyr lleol.
Caiff y cyhoeddiadau eu gwneud wrth i ddirprwyaeth o fusnesau o Israel ymweld â Chymru i ddathlu’r cysylltiadau masnach a buddsoddi sy’n bodoli rhwng Israel a Chymru ac i chwilio am gyfleoedd newydd.
Mae’r buddsoddiadau a gyhoeddwyd yn ganlyniad i gydweithio agos rhwng Llywodraeth y DU (drwy UKTI Israel) a Llywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys:
-
SPTS Technologies yng Nghasnewydd – cwmni angor yng Nghymru a cheffyl blaen yn rhyngwladol yn y farchnad offer lled-ddargludyddion – yn cyhoeddi fod ei allforion bellach yn werth dros U.S. $1biliwn. Ers mis Awst 2014, mae SPTS Technologies wedi bod dan berchnogaeth Orbotech, sef cwmni o Israel sydd wedi’i restru ar NASDAQ, ac mae’n allforio dros 95% o’i gynnyrch i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd. Sefydlwyd y cwmni yn 2009 ac yn y cyfamser mae wedi llwyddo i gyflawni gwerthiant allforio o $1biliwn.
-
Y llynedd, dyfarnwyd £4.6m o gyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd i’r cwmni gan Lywodraeth Cymru i gynnal prosiect tair blynedd i feithrin y genhedlaeth nesaf o gynnyrch ar gyfer deunyddiau Pecynnu Uwch gan roi’r cwmni ar flaen y gad yn y diwydiant. Bydd yn creu 30 o swyddi ymchwil a datblygu llawn amser yng Nghasnewydd a rhagwelir y bydd £13m o arian ychwanegol yn cael ei wario gyda chyflenwyr lleol dros gyfnod y prosiect.
-
Mae Sapiens International Corporation, sy’n ddarparwr arloesol o ddatrysiadau meddalwedd ar gyfer y diwydiant yswiriant, yn rhagweld blwyddyn arall o dwf dwbl-digid. Ar hyn o bryd mae Sapiens yn cyflogi 240 o bobl yn y DU a’r bwriad yw cynyddu ei weithlu yng Nghaerdydd yn sylweddol dros y 12 mis nesaf.
-
Mae Amiad Water Systems, un o’r prif gynhyrchwyr systemau hidlo a thrin dŵr yn y byd, wedi cyhoeddi ei fod wedi dewis Abertawe fel lleoliad ei safle parhaol cyntaf yn y DU. Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae Amiad wedi cyflenwi datrysiadau arloesol ledled y DU - o’r Eden Project a’r Prosiect arbed-ynni, dim-carbon yn Kingston Heights i ddarparu gwarchodaeth Cryptosporidiwm effeithiol mewn llawer o weithfeydd trin dŵr. Bydd Amiad yn creu 5 – 10 o swyddi newydd yn y flwyddyn gyntaf gyda’r potensial i ehangu eto. Drwy gyfrwng ei sgiliau peirianneg a’i allu i arloesi, mae Amiad yn darparu atebion cynaliadwy a chost effeithiol ar gyfer marchnadoedd diwydiannol, trefol, prosesau dyfrhau, olew a nwy, a balast dŵr mewn 80 o wledydd.
-
Mae Lordan UK wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £1miliwn yn ei gyfleuster yn Hengoed, de Cymru, sy’n cynhyrchu cyfnewidwyr gwres tiwb a ffin wedi’u teilwra’n bersonol ar gyfer y farchnad HVAC&R fyd-eang. Mae Lordan eisoes yn cyflogi 45 o bobl ar ei safle yng Nghymru ac mae’n gweld cyfleoedd ar gyfer twf pellach yn y DU oherwydd yr anghenion sy’n codi yn economi y DU.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae ein sector technoleg arloesol yn helpu i ddenu buddsoddiad tramor a chreu swyddi yng Nghymru.
Drwy rwydwaith masnach fyd-eang Llywodraeth y DU, mae buddsoddwyr rhyngwladol yn sylweddoli bod Cymru yn wlad allblyg ac yn gyrchfan deniadol i fusnesau. Mae Israel yn ffrind agos i’r DU ac rydym yn mwynhau perthynas fasnachu wych sy’n seiliedig ar ddegawdau o gydweithio.
Hoffwn weld cyhoeddiadau heddiw yn rhoi hwb i Gymru i greu cysylltiadau agosach gyda chwmnïau a marchnadoedd byd-eang. Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos ein bod ni ar agor i fusnes, ar agor i fasnach, ac ar agor i fuddsoddiad.
Dywedodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru:
Rydw i’n falch iawn gweld bod Cymru yn lleoliad deniadol ar gyfer cwmnïau technoleg uwch o Israel, a’n bod yn gweld buddsoddiadau newydd yn ogystal â buddsoddiadau parhaus sylweddol.
Mae’n cadarnhau bod Cymru yn darparu’r amgylchedd delfrydol i fusnesau allu ffynnu a thyfu, a chaiff hyn ei ategu gan y nifer fwyaf erioed o brosiectau buddsoddiad mewnol gan gwmnïau tramor sy’n dewis Cymru ar draul gwledydd eraill fel y lleoliad o’u dewis.
Rydyn ni’n croesawu’r ymweliad hwn gan uwch swyddogion rhai o brif gwmnïau Israel wrth iddyn nhw chwilio am gyfleoedd busnes newydd yng Nghymru ac adeiladu ar y cysylltiadau cynyddol rhwng ein dwy wlad.