Japan yn agor ei marchnad i gig oen a chig eidion o Brydain
Y cytundeb yn newyddion da i ffermwyr Cymru y mae eu cig oen eisoes yn cyfrif am draean yr holl fwyd a diod sy’n cael eu hallforio
Bydd allforwyr yn y DU yn elwa ar hwb gwerth miliynau o bunnoedd ar ôl i Japan heddiw agor ei marchnad i gig oen a chig eidion sy’n cael eu hallforio o’r DU.
Amcangyfrifir bod y cytundeb, a lofnodwyd yn ystod ymweliad Prif Weinidog Abe â’r DU, yn werth cyfanswm o bron i £130 miliwn dros y bum mlynedd gyntaf – tua £75 miliwn ar gyfer cig eidion a £52 miliwn ar gyfer cig oen.
Fe wnaeth Japan, un o brif fewnforwyr cig eidion lle mae’r galw am gig oen o safon yn cynyddu, godi ei gwaharddiad ar fewnforio’r cynhyrchion hyn, a oedd wedi bod mewn lle am oddeutu 20 mlynedd, a hynny i ddigwydd yn syth.
Mae’r fargen yn dilyn blwyddyn o lwyddiant byd-eang i allforwyr yn y DU, a oedd yn cynnwys Tsieina yn codi ei gwaharddiad ar gig eidion o’r DU, Taiwan yn agor ei marchnad i gig mochyn, ac India yn paratoi i fewnforio cig defaid o’r DU.
Bydd agor y farchnad i gig oen yn newyddion da i ffermwyr Cymru hefyd, lle mae’r cig yn cyfrif am draean yr holl fwyd a diod sy’n cael eu hallforio – gwerth £110 miliwn.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae gan gig oen Cymru enw da ledled y byd ac mae’n arwydd o ansawdd.
Bydd cyhoeddiad heddiw yn arwain at fwy byth o gyfleoedd i ffermwyr Cymru farchnata eu cynnyrch i bedwar ban byd, gan ddangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i feithrin partneriaethau byd-eang pwysig i gefnogi ein diwydiannau hollbwysig yng Nghymru.
Dywedodd George Eustice, y Gweinidog Bwyd:
Mae agor marchnad Japan yn ganlyniad ardderchog i gynhyrchwyr cig eidion a chig oen ledled y DU ac yn dangos hyder yn ein safonau uchel o ran bwyd a diod.
Wrth i ni ddechrau oes newydd fel allforiwr byd-eang, mae datgloi’r farchnad hon yn gam mawr o ran cysylltiadau masnachu yn y dyfodol ac yn arwydd o’n hymrwymiad i helpu ein diwydiant bwyd a diod i allforio rhagor o fwyd o Brydain.
Codwyd y gwaharddiad yn dilyn cyfres o ymweliadau a thrafodaethau rhwng swyddogion o’r DU a Japan. Penllanw’r broses hon oedd arolygiad o systemau cynhyrchu cig eidion a chig oen y DU yn 2018, a gynhaliwyd yn llwyddiannus gan Defra a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Safonau Bwyd yr Alban, DAERA, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), a Phartneriaeth Ardystio Allforion y DU.
Mae Japan yn enwog am ei threfn dynn o ran diogelwch bwyd a rheoli mewnforion a’r disgwyl yw y bydd agor y farchnad hon yn cyfleu neges gadarnhaol i wledydd eraill, yn enwedig yn Asia, ynghylch diogelwch allforion o’r DU.
Dywedodd Wyn Evans, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru
Croesawaf agor marchnad premiwm newydd ar gyfer cig oen a chig eidion statws PGI o Gymru. Mae cynnal a sicrhau marchnadoedd allforio newydd yn hollbwysig i’n huchelgais o fewn NFU Cymru, fel y gallwn barhau i dyfu sector bwyd a diod Cymru gwerth £6.9 biliwn a sicrhau hyfywedd tymor hir diwydiant cig coch o Gymru. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r partneriaid yn y gadwyn gyflenwi i sicrhau bod prynwyr o Japan yn cael cyfle i fwynhau’r cig eidion ac oen gorau yn y byd, a gynhyrchir yng Nghymru.
Dywedodd Dr Phil Hadley, Cyfarwyddwr Datblygu’r Farchnad Ryngwladol yn AHDB:
Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion ardderchog i’n ffermwyr a’n cynhyrchwyr, ac mae’n uchafbwynt blynyddoedd o waith caled gan y Llywodraeth, AHDB a rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant.
Mae mynediad at y farchnad newydd broffidiol hon yn brawf o’r cynnyrch o ansawdd uchel a’r safonau sy’n adnabyddus ledled y byd sydd gennym ni yma yn y DU. Rydyn ni’n hyderus y bydd y fargen newydd hon i allforio cig eidion a chig oen i Japan, ynghyd â’n masnach cig mochyn sy’n bodoli’n barod, yn creu cyfleoedd cyffrous i’n cynhyrchwyr cig eidion a chig oen.
Bydd ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd yn gallu dechrau allforio cyn gynted ag y mae’r broses restru weinyddol wedi’i chwblhau.