Datganiad i'r wasg

Academyddion blaenllaw i drafod datganoli yng Nghymru â’r Farwnes Randerson

Bydd panel o academyddion heddiw (26 Ionawr) yn cwrdd â Gweinidog Swyddfa Cymru Jenny Randerson i drafod datganoli yng Nghymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd yn dod ag arbenigwyr o nifer o brifysgolion Cymru at ei gilydd i rannu eu barn ar sut gall llywodraeth y DU sicrhau rhagor o ddatganoli i Gymru.

Bydd y cyfarfod yn rhoi cyfle pwysig i’r academyddion drafod a gwneud sylwadau ynghylch rhaglen llywodraeth y DU ar gyfer datganoli yng Nghymru.

Mae’r Farwnes Randerson yn gweithio gydag Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, sy’n arwain ar y rhaglen ddatganoli.

Mae Mr Crabb wedi addo cyhoeddi fframwaith trawsbleidiol newydd i greu setliad datganoli cadarn a pharhaus i Gymru erbyn dydd Gŵyl Dewi eleni.

Dywedodd y Farwnes Randerson y byddai’r cyfarfod yn ceisio adeiladu ar hanes cadarn llywodraeth y DU ar ddatganoli.

Dywedodd:

Mae’n bwysig ein bod yn clywed amrywiaeth o safbwyntiau ynghylch sut gallwn ni sicrhau newid cyfansoddiadol sy’n gweithio i Gymru.

Mae’r academyddion rwy’n cwrdd â nhw heddiw ymhlith y goreuon a’r mwyaf deallus yng Nghymru, ac mae ganddyn nhw ddealltwriaeth wych o wleidyddiaeth, hanes a chymdeithas Cymru.

Mae gan nifer ohonyn nhw rôl arweiniol yn ein prifysgolion hefyd – sefydliadau sy’n allweddol i economi lwyddiannus yng Nghymru.

Byddan nhw’n cyflwyno cipolwg a dadansoddiad ffres o rai o’r materion pwysicaf i Gymru.

Rwy’n siŵr y byddan nhw’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r rhaglen ddatganoli a’r drafodaeth ynghylch dyfodol llywodraethu Cymru.

Bydd y Farwnes Randerson yn cadeirio’r drafodaeth yn swyddfa Pwynt Caspian Swyddfa Cymru, yng Nghaerdydd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Ionawr 2015