Gyrwyr sy’n dysgu ar draffyrdd o 4 Mehefin 2018
Gall gyrwyr sy’n dysgu gymryd gwersi gyrru ar draffyrdd gyda hyfforddwr gyrru cymeradwy o 4 Mehefin 2018.
O ddydd Llun 4 Mehefin 2018, bydd gyrwyr sy’n dysgu yn gallu cymryd gwersi gyrru ar draffyrdd yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o yrwyr yn gwybod sut i ddefnyddio traffyrdd yn ddiogel.
Ar hyn o bryd, dim ond ar ôl i chi basio’ch prawf gyrru y gallwch gael gwersi ar draffyrdd. Mae rhai gyrwyr sydd newydd gymhwyso yn cymryd gwersi trwy’r cynllun Pass Plus gwirfoddol.
Sut y bydd y newid yn gweithio
Bydd angen i yrwyr sy’n dysgu:
- gael ei hebrwng gan hyfforddwr gyrru cymeradwy
- gyrru car â rheolyddion deuol
Bydd unrhyw wersi ar draffyrdd yn wirfoddol. Bydd yr hyfforddwr gyrru yn penderfynu pryd y bydd y gyrrwr sy’n dysgu yn ddigon cymwys i’w cael.
Hyd nes y bydd y gyfraith yn newid, mae’n dal yn anghyfreithlon i yrrwr sy’n dysgu gyrru ar draffordd.
Mae’r newid yn berthnasol i yrwyr ceir yn unig. Ni chaniateir beicwyr modur sy’n dysgu ar draffyrdd.
Ni chaniateir i hyfforddwyr gyrru dan hyfforddiant fynd â gyrwyr sy’n dysgu ar y draffordd.
Nid yw gyrru ar y draffordd yn cael ei gyflwyno i’r prawf gyrru fel rhan o’r newid hwn.
Sicrhau bod defnyddwyr y ffordd yn barod ar gyfer y newid
Caiff y newid ei hysbysebu’n dda fel bod:
- hyfforddwyr gyrru a gyrwyr sy’n dysgu yn gallu paratoi
- defnyddwyr eraill y ffordd yn gwybod beth i’w ddisgwyl
Bydd Rheolau’r Ffordd Fawr ar draffyrdd yn cael eu diweddaru.
Gyrru ger gyrwyr sy’n dysgu ar y draffordd
Fel gydag unrhyw gerbyd ar y draffordd, cadwch bellter diogel rhyngoch chi a gyrrwr sy’n dysgu o’ch blaen. Cynyddwch y bwlch ar ffyrdd gwlyb neu rewllyd, neu mewn niwl.
Dylech bob amser fod yn amyneddgar gyda gyrwyr sy’n dysgu. Efallai na fyddant mor fedrus ynghylch rhagweld ac ymateb i ddigwyddiadau.
Cerbydau hyfforddwyr gyrru a hyfforddiant
Gall hyfforddwyr gyrru benderfynu a ydynt am ddefnyddio blwch yr ysgol yrru yn ystod gwersi ar draffyrdd, yn seiliedig ar ei chyfarwyddiadau.
Bydd angen i’r car arddangos platiau L/D ar y blaen a’r cefn os bydd y blwch ar y to yn cael ei dynnu i ffwrdd.
Cyfarwyddyd ar gyfer hyfforddwyr gyrru
Mae [deunyddiau dysgu]https://www.safedrivingforlife.info/shop/car) a’r maes llafur ar gyfer dysgu gyrru car yn cael eu diweddaru i gynnwys gwersi ar gyfer y traffyrdd.
Ni fydd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau yn rhoi hyfforddiant ychwanegol i hyfforddwyr gyrru ar ddarparu gwersi ar gyfer y traffyrdd.
Mae National Associations Strategic Partnership (Partneriaeth Strategol Cymdeithasau Cenedlaethol) yr hyfforddwyr gyrru wedi cynhyrchu cyfarwyddyd ynghylch arfer gorau i helpu hyfforddwyr.
Paratoi gyrwyr am oes o yrru’n ddiogel
Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud i ganiatáu i yrwyr sy’n dysgu:
- gael profiad gyrru ehangach cyn cymryd eu prawf gyrru
- cael hyfforddiant ar sut i ymuno ag a gadael y draffordd, goddiweddyd a defnyddio lonydd yn gywir
- ymarfer gyrru ar gyflymder uwch
- deall arwyddion traffig penodol ar draffyrdd
- deall beth i’w wneud os bydd cerbyd yn torri i lawr ar draffordd
- gwella eu hyder i yrru ar y draffordd heb oruchwyliaeth ar ôl pasio eu prawf gyrru
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 12 Awst 2017Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mawrth 2018 + show all updates
-
Added the date (Monday 4 June 2018) that the law will change, advice about driving near learner drivers on the motorway, and added a Welsh translation of the news story.
-
First published.