Bargen Twf Canolbarth Cymru yn cyrraedd carreg filltir allweddol
Mae Llywodraeth y DU wedi llofnodi Penawdau’r Telerau'r Fargen Twf.
Cyrhaeddodd Bargen Twf Canolbarth Cymru garreg filltir bwysig heddiw [dydd Mawrth, 22 Rhagfyr] wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth lofnodi Penawdau’r Telerau.
Mae’r llofnodi yma yn tystio i ymrwymiad y llywodraethau a’r awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn darparu bargen i gefnogi economi’r rhanbarth.
Mae hefyd yn ymrwymo Llywodraethau Cymru a’r DU i gefnogi’r fargen twf gyda buddsoddiad o £55m yr un, sef cyfanswm o £110 miliwn.
Gall y rhanbarth bellach symud ymlaen i’r cam nesaf sy’n cynnwys cyflwyno cynigion manylach ar ffurf Achos Busnes Portffolio a fydd yn cynnwys wyth maes blaenoriaeth ar gyfer ymyrryd, gan gynnwys cysylltedd digidol, ymchwil gymhwysol ac arloesedd, ynni, sgiliau a chyflogaeth, cymorth busnes, trafnidiaeth, amaethyddiaeth, gan gynnwys bwyd a diod a hunaniaeth dwristiaeth gryfach.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae Llywodraeth y DU yn anelu at ddod â mwy o fuddsoddiad a thwf i gymunedau ledled Cymru ac mae’r llofnodi heddiw yn cynrychioli cynnydd gwirioneddol o ran cyflawni’r nodau hynny.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn gyfle sylweddol i drawsnewid y rhanbarth. Byddwn yn adeiladu’n ôl yn well o’r pandemig ac yn dod â chyfleoedd a swyddi i’n cymunedau a dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo £55m i’r portffolio cyffrous hwn o fuddsoddiad.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu’r fargen twf a sicrhau ei bod yn cyflawni ar gyfer pobl a busnesau Canolbarth Cymru.
DIWEDD