Datganiad i'r wasg

Gweinidogion yn anelu at greu’r ‘lle gorau yn y byd ar gyfer buddsoddi mewn chwaraeon menywod’.

Mae pedwar sefydliad yng Nghymru yn elwa o gynllun buddsoddi Llywodraeth y DU wrth i weinidogion geisio creu’r ‘lle gorau yn y byd’ ar gyfer chwaraeon menywod.

Cricket ball next to a boundary rope.

  • Mae pedwar sefydliad yng Nghymru yn elwa o gynllun buddsoddi Llywodraeth y DU wrth i weinidogion geisio creu’r ‘lle gorau yn y byd’ ar gyfer chwaraeon menywod.
  • Mae’r gynghrair bêl-droed y Genero Adran League, tîm pêl-rwyd Dreigiau Caerdydd, cystadleuaeth Her Geltaidd Rygbi’r Undeb a Chriced Menywod Cymru a Lloegr i gyd yn elwa o’r cynllun.
  • Meddai Ysgrifennydd Cymru: “Mae’n bwysig iawn bod Llywodraeth y DU yn datblygu cynlluniau fel hyn i wneud yn siŵr bod ein menywod ym myd chwaraeon yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arnynt i lwyddo.”

Mae pedwar sefydliad chwaraeon menywod yng Nghymru ar fin cael hwb ar ôl cael eu henwi’n rhan o gynllun gan Lywodraeth y DU i gynyddu buddsoddiad mewn clybiau a chynghreiriau menywod elît fel rhan o addewid newydd i sicrhau mai’r DU yw’r lle gorau yn y byd ar gyfer buddsoddi mewn chwaraeon menywod.

Heddiw [dydd Mercher 23 Hydref] bydd yr Adran Busnes a Masnach yn lansio’r cynllun Sbarduno Buddsoddiad mewn Chwaraeon Menywod 2024-25, a fydd yn dod â dros 20 o gynghreiriau, cystadlaethau a thimau elît ynghyd â buddsoddwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant i’w helpu i sicrhau buddsoddiad a nawdd trawsnewidiol.

Drwy’r cynllun, byddant yn cael gwybodaeth gynhwysfawr am y farchnad, yn ogystal â seminarau a chyfleoedd i wneud cysylltiadau a rhwydweithio dros gyfres o sesiynau. Gwneir hyn dan arweiniad yr Adran Busnes a Masnach ar y cyd â Deloitte, a fydd yn rhoi adnoddau a gwybodaeth arbenigol i’r sefydliadau er mwyn eu helpu i ddenu buddsoddiad a thyfu eu busnes.

Mae deiliaid hawliau elît yng Nghymru – y Genero Adran League, Dreigiau Caerdydd, yr Her Geltaidd, a Chriced Menywod Cymru a Lloegr wedi cael eu henwi i gymryd rhan yn y cynllun. Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud mewn cynhadledd buddsoddi mewn chwaraeon yn Rothschild & Co heddiw, a fydd yn cynnwys arweinwyr o brif chwaraeon y DU a rhai o fuddsoddwyr rhyngwladol mwyaf blaenllaw’r byd.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae gan Gymru hanes balch o gynhyrchu athletwyr benywaidd o’r radd flaenaf ac mae’n wych gweld y cynllun hwn yn cael ei sefydlu i annog buddsoddiad mewn chwaraeon menywod a helpu i ddatblygu sêr y dyfodol.

Mae chwaraeon menywod wedi cael eu tanariannu ers tro byd ac mae’n bwysig iawn bod Llywodraeth y DU yn datblygu cynlluniau fel hyn i wneud yn siŵr bod ein menywod ym myd chwaraeon yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Dywedodd Vicki Sutton, Prif Weithredwr Pêl-rwyd Cymru a Dreigiau Caerdydd:

Mae bod yn rhan o Raglen yr Adran Busnes a Masnach a Deloitte dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod o fuddiol i bêl-rwyd yng Nghymru ac i fy natblygiad a fy nealltwriaeth i fel arweinydd yn y sector chwaraeon.

Mae chwaraeon menywod ar gynnydd ac mae’r rhaglen hon wedi dod ar yr union adeg iawn i ategu’r mudiad byd-eang sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Dywedodd Poppy Gustafsson, y Gweinidog dros Fuddsoddi: 

Mae’r DU eisoes yn gartref elît i chwaraeon menywod, a fy nod yw sicrhau mai ni yw’r lle gorau yn y byd ar gyfer buddsoddi mewn chwaraeon menywod.  

Mae lansio’r cynllun hwn, wythnos ar ôl ein Huwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol fwyaf llwyddiannus erioed, yn dangos mai’r DU yw’r lle gorau i gynnal busnes yn y diwydiant hwn sy’n tyfu’n gyflym. 

Ar ôl gweld y ffigurau diweddaraf sy’n dangos y gallai’r diwydiant fod yn werth dros £1 biliwn eleni, rwy’n edrych ymlaen at siarad â buddsoddwyr a chlybiau, cynghreiriau a thimau heddiw am sut gall y Rhaglen Gyflymu fynd ati i sbarduno’r twf hwn ymhellach fyth.” 

Dywedodd Tim Bridge, Partner Arweiniol Grŵp Busnes Chwaraeon Deloitte:

Rydyn ni’n gweld cynnydd mawr mewn cyfleoedd buddsoddi ym maes chwaraeon menywod. Mae’r cynnydd mewn nawdd brand a’r cyllid sy’n cael ei neilltuo ar gyfer clybiau, cynghreiriau a chystadlaethau menywod a merched yn arwydd o newid pwerus.

Mae’r Rhaglen Gyflymu wedi cael ei llunio i gysylltu buddsoddwyr a brandiau â’r cyfleoedd hyn, gan ddangos cryfder chwaraeon menywod a’u potensial aruthrol i dyfu. Bydd y buddsoddiad hwn yn allweddol i hybu proffesiynoldeb a chyfranogiad ar hyd a lled y DU, gan gael effaith barhaol ar chwaraeon menywod ar bob lefel, a sicrhau enillion economaidd sylweddol ar yr un pryd.

Bydd y cynllun yn manteisio ar dwf cyflym y diwydiant chwaraeon menywod – disgwylir iddo fod yn werth dros £1 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn yn ôl Deloitte, gan nodi cynnydd o 300% #ers 2021.

Daw addewid y Llywodraeth i sicrhau mai’r DU yw’r lle gorau yn y byd ar gyfer buddsoddi mewn chwaraeon menywod ar ôl yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol fwyaf llwyddiannus erioed yr wythnos diwethaf, lle sicrhawyd £63 biliwn o fuddsoddiad preifat yn y DU a fydd yn creu dros 38,000 o swyddi newydd ar hyd a lled y wlad.

Rhestr lawn o’r chwaraeon elît a gynrychiolir yn y Rhaglen Cyflymu Buddsoddiad mewn Chwaraeon Menywod 2024-25: 

  • Pêl-droed 
  • Criced 
  • Rygbi’r undeb 
  • Rygbi’r gynghrair 
  • Tenis 
  • Golff 
  • Pêl-rwyd 
  • Pêl-foli 
  • Seiclo

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Hydref 2024