Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn symud swyddi i Gymru
Mae tua 500 o swyddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael eu symud i Gymru fel rhan o’r rhaglen Places for Growth, i helpu i godi’r gwastad mewn cymunedau.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn symud mwy o swyddi i Gymru i ledaenu cyfleoedd * Tua 500 o swyddi’n symud i Gymru * Mae’r datblygiadau hyn yn rhan o’r rhaglen Places for Growth sy’n symud swyddi’r gwasanaeth sifil allan o Lundain ac yn codi’r gwastad mewn cymunedau * Bydd y system gyfiawnder yn gallu manteisio ar hyd yn oed mwy o arbenigedd y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd swyddfeydd rhanbarthol newydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn creu 500 o swyddi newydd yng Nghymru, fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i godi’r gwastad mewn cymunedau.
Bydd y swyddi’n ehangu presenoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â lleoli rolau ychwanegol yng Ngogledd Cymru.
Bydd saith Canolfan Cydweithio ym maes Cyfiawnder yn cael eu hagor ochr yn ochr â chyfres o is-swyddfeydd wrth i raglen Places for Growth y llywodraeth barhau i symud rolau’r gwasanaeth sifil allan o Lundain ac yn nes at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Bydd y cynllun yn sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gallu manteisio ar amrywiaeth eang y dalent ledled Cymru a Lloegr gyda 22,000 o swyddi’n symud allan o brifddinas Lloegr erbyn 2030.
Mae bron i 70 y cant o weithlu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder eisoes wedi’i leoli y tu allan i Lundain a De Ddwyrain Lloegr, a bydd hyn yn golygu y bydd dros 2,000 o swyddi mewn meysydd fel cyllid, adnoddau dynol a digidol yn cael eu symud erbyn 2030, gyda 500 o’r rheini’n dod i Gymru.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Dominic Raab:
Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal ar draws cymunedau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol.
Drwy gael mwy o’n staff y tu allan i Lundain, gallwn recriwtio’r bobl orau lle bynnag y maen nhw’n byw fel bod y system gyfiawnder yn elwa o gefndiroedd, safbwyntiau a phrofiadau mwy amrywiol.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ein prif nod yw codi’r gwastad ym mhob rhan o’r DU ac mae’r ymrwymiad hwnnw’n cynnwys darparu mwy o swyddi a chyfleoedd o fewn Llywodraeth y DU.
Rydym eisiau manteisio i’r eithaf ar dalent a photensial gweithlu Cymru a bydd symud cannoedd o swyddi i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn ein helpu i gyflawni’r amcan hwnnw.
Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol dros ben ar gyfer Cymru a fydd yn sicrhau twf ac arloesed dros y blynyddoedd nesaf, ac mae adleoli rhagor o swyddi yn y gwasanaeth sifil yn rhan o’r pecyn hwnnw.
Bydd y Canolfannau Cydweithio newydd ym maes Cyfiawnder yn swyddfeydd mawr gyda chymysgedd o ddesgiau traddodiadol, ardaloedd cydweithio, ac ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi. Byddant yn galluogi staff i weithio wyneb yn wyneb mewn rolau ym maes cyllid, digidol ac adnoddau dynol yn ystod cyfarfodydd a sesiynau hyfforddiant yn Leeds, Lerpwl, Nottingham, De Tyneside, Caerdydd, Ipswich a Brighton.
Bydd staff hefyd wedi’u lleoli mewn Swyddfeydd Lloeren rhanbarthol newydd, gan gynnwys desgiau gwaith mewn adeiladau sy’n bodoli eisoes, fel y llysoedd.
Dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Stephen Barclay AS:
Mae’n wych gweld y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig mwy o gyfleoedd ledled y DU drwy agor saith swyddfa newydd ledled Cymru a Lloegr, sy’n dangos yn glir uchelgais y llywodraeth i godi’r gwastad mewn cymunedau lleol drwy ddarparu rhagolygon gyrfa tymor hir i’w hardal yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar ganol Llundain fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
Drwy ein Cynllun Places for Growth, rydyn ni’n dod â mwy o gyfleoedd a phenderfyniadau yn nes at y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Dywedodd Antonia Romeo, Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder:
Mae ehangu proses recriwtio’r Weinyddiaeth yn hanfodol, nid yn unig am ei fod yn creu cyfleoedd ond am ei fod yn ein helpu i fod yn fwy arloesol a gwneud penderfyniadau gwell.
Bydd symud dros 2,000 o rolau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder o Lundain a De Ddwyrain Lloegr erbyn 2030 ac agor swyddfeydd rhanbarthol newydd ledled Cymru a Lloegr yn helpu i sicrhau ein bod yn cyflogi’r bobl fwyaf talentog o bob ardal a chefndir i helpu i ddarparu ar gyfer y gymdeithas rydym yn ei gwasanaethu.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn esiampl sawl adran arall o Lywodraeth y DU sydd wedi cadarnhau eu bod yn symud miloedd o swyddi yn y gwasanaeth sifil allan o Lundain, gan wasanaethu’r cymunedau maen nhw’n eu cynrychioli yn well fel Caerdydd, Wolverhampton a Glasgow. Mae’r rhain yn cynnwys y Swyddfa Gartref, yr Adran Codi’r Gwastad, yr Adran Tai a Chymunedau, yr Adran Masnach Ryngwladol a Swyddfa’r Cabinet. Bydd swyddi gwag yn cael eu hail-hysbysebu’n genedlaethol, yn hytrach na’u clymu i leoliad. O weithredu fel hyn, rydym wedi gweld bod y rhan fwyaf o’r gweithwyr newydd sy’n cael eu recriwtio wedi’u lleoli y tu allan i Lundain.