Mwy na hanner biliwn i gymru yng nghyllideb y Canghellor
Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi heddiw y bydd Cymru yn elwa o dros hanner biliwn o bunnau o arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru
Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi heddiw y bydd Cymru yn elwa o dros hanner biliwn o bunnau o arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ynghyd â £120 miliwn ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru.
Mae Cyllideb eleni yn ganlyniad i ddull cytbwys y llywodraeth o ddyrannu arian y wlad, sy’n golygu y bydd gan Lywodraeth Cymru fwy o rym gwario a bydd ar yr un pryd yn gallu cadw trethi’n isel a lleihau dyled.
Mae cyhoeddiadau heddiw ar gyfer Cymru yn cynnwys:
- Dros £550 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan olygu bydd ei chyllideb wedi cynyddu i dros £16.1 biliwn erbyn 2020.
- £120 miliwn ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru, gan hyrwyddo buddsoddi, swyddi a ffyniant yn y rhanbarth.
- Parhau i gefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, busnesau a chynghorwyr lleol i gytuno ar fargen
- Cefnogi’r broses o ddarparu ffordd lliniaru i’r M4 trwy adolygu pwerau benthyca Llywodraeth Cymru
- Rhoi’r rhyddid i gynghorau Cymru adeiladau rhagor o dai cyngor trwy ddileu’r cap benthyca ar gyfer tai
- Penodi rheolwr dynodedig o Fanc Busnes Prydain yng Nghymru am y tro cyntaf i helpu i leihau anghydbwyseddau daearyddol o ran mynediad busnesau bychain at gyllid
Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond:
Mae fy Nghyllideb yn cyfleu neges glir i bobl Cymru – mae eich gwaith caled yn dechrau creu buddion.
Diolch i Lywodraeth y DU a’i stiwardiaeth ofalus o’r economi, mae arian cyhoeddus mewn sefyllfa llawer cryfach ac mae dyled yn genedlaethol yn lleihau.
Mae hyn yn golygu bod gennym fwy o arian i’w fuddsoddi yn nyfodol Cymru - gan gynnwys £550 miliwn o arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru a £120 miliwn ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru.
Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae cyllideb heddiw yn dangos graddfa uchelgais Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru.
Mae’r gefnogaeth glir ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru, adolygu’r capasiti benthyca ar gyfer prosiectau isadeiledd allweddol, a’r hanner biliwn o bunnau ychwanegol i gynyddu’r grym gwario, i gyd yn adlewyrchu Cyllideb sy’n cefnogi ffyniant Cymru yn y dyfodol.
Mae’r pecyn ehangach o gyhoeddiadau a wnaed heddiw yn dangos ein bod yn gwneud y pethau pwysig yn iawn - trwy gefnogi pobl weithgar a galluogi isadeiledd allweddol. Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn yn dystiolaeth glir fod Llywodraeth y DU yn adeiladu ar sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol economaidd Cymru fel rhan o Deyrnas Unedig gryfach.
Cyflwynodd y Canghellor ei Gyllideb yn erbyn cyd-destun o newyddion economaidd positif ledled Cymru. Ers 2010, mae 151,000 yn fwy o bobl yng Nghymru mewn gwaith ac yn 2016 roedd gan Cymru un o’r cyfraddau twf cynhyrchiant uchaf yn y DU.
Bydd pobl Cymru hefyd yn elwa o fesurau i daclo costau byw:
- Bydd y doll ar danwydd yn aros ar yr un gyfradd am y nawfed flwyddyn yn olynol. O ganlyniad i’r naw blynedd o rewi tollau tanwydd, erbyn mis Ebrill 2020, bydd gyrwyr ceir ar gyfartaledd wedi arbed £1,000 yr un dros y blynyddoedd o’i gymharu â’r cynnydd blynyddol cyson cyn 2010.
- Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol hefyd yn cynyddu y flwyddyn nesaf i £8.21 yr awr, ac mae oddeutu 81,000 o weithwyr yng Nghymru yn elwa o’r gyfradd bresennol. Bydd 20,000 ychwanegol o bobl hefyd yn elwa o newidiadau i’r Isafswm Cyflog, a fydd yn cynyddu hefyd i £7.70 yr awr.
- Bydd y Lwfans Treth Personol yn cynyddu i £12,500 a bydd y trothwy cyfradd uwch hefyd yn codi i £50,000, a fydd yn golygu y bydd pobl yn gallu cadw cyfran fwy o’r arian maent yn ei ennill.