Mwy o ymwelwyr o'r DU yn heidio i Gymru
Mae nifer yr ymwelwyr sy’n dewis Cymru ar gyfer seibiant dros nos neu am y dydd wedi cynyddu
Mae nifer yr ymwelwyr sy’n dewis Cymru ar gyfer seibiant wedi cynyddu, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (23 Hydref 2014).
Dengys arolwg i ymweliadau dydd a dros nos ym Mhrydain Fawr ar gyfer y cyfnod Ionawr-Gorffennaf 2014 bod y nifer o nosweithiau gwely ac ymweliadau dydd gan drigolion y DU wedi codi o’u cymharu â’r un cyfnod yn 2013.
O’r 50.56m o wyliau dros nos a gymerwyd yn y DU yn ystod Ionawr-Gorffennaf 2014, roedd 8.4% o’r rhain i Gymru, cynnydd sylweddol ar y gyfran o 7.4% gofnodwyd dros yn yr un cyfnod yn 2013.
Mae’r newyddion am ymweliadau undydd hefyd yn galonogol. Bu 56 miliwn o ymweliadau undydd gan drigolion Prydain i Gymru rhwng mis Ionawr-Gorffennaf 2014, yn creu gwariant o £1.490 miliwn. Mae nifer y teithiau wedi cynyddu 9% o’i gymharu â saith mis cyntaf 2013 (51 miliwn).
Mae’r hwb hwn mewn ymweliadau ‘cartref’ yn ategu’r ystadegau diweddar sy’n dangos bod nifer yr ymwelwyr rhyngwladol i Gymru wedi cynyddu 28% dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn sgil argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid gwneud mwy i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth yn rhyngwladol.
Croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson y newyddion:
Rydym yn gwybod bod gyda ni rywbeth arbennig i’w gynnig yma yng Nghymru - adeiladau hanesyddol diddorol, arfordiroedd syfrdanol, bwyd eithriadol a phobl hynod gyfeillgar – a rydym yn croesawu’r ffaith bod pobl ar draws y DU yn awr yn sylweddoli bod Cymru yn le gwych i ymweld ag ef. Gallwn nawr drosglwyddo’r neges hon ar draws y byd.
Mae’r ffigurau ymwelwyr diweddaraf yma yn newyddion gwych i’r diwydiant twristiaeth ac yn newyddion gwych i’r rhai ohonom sy’n mwynhau gweld ein gwlad yn cael ei werthfawrogi a’i fwynhau gan bobl o bob cwr o’r DU.