Datganiad i'r wasg

Nodyn atgoffa treth ar gyfer prynwyr cerbydau bron yn newydd

Mae’r DVLA yn atgoffa’r rheiny sy’n ystyried newid eu ceir yr haf hwn i gael gwybod os allai cyfraddau treth newydd effeithio arnynt.

Daeth cyfraddau treth newydd i rym ar gyfer holl geir a rhai cartrefi modur a gofrestrwyd o 1 Ebrill 2017. Mae’r rhai sy’n gobeithio prynu car sydd bron yn newydd yn gallu gwirio ar-lein i wneud yn sicr eu bod yn gwybod beth fydd angen iddynt eu talu.

Bydd faint o dreth sydd i’w dalu yn dibynnu ar y math o gerbyd. Y cyfraddau safonol yw:

  • £140 y flwyddyn ar gyfer cerbydau petrol neu ddisel
  • £130 y flwyddyn am gerbydau tanwydd amgen (hybrid, bioethanol ac LPG)
  • £0 y flwyddyn ar gyfer cerbydau heb unrhyw allyriadau CO2

Mae yna daliad atodol o £310 y flwyddyn am 5 mlynedd (o’r ail waith pam fydd cerbyd yn cael ei drethu), os oes gan y cerbyd bris catalog o £40,000 pan y’i cofrestrir gyntaf.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfraddau treth ar www.gov.uk/newvehicletaxrates.

Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar geir a gofrestrwyd cyn 1 Ebrill 2017.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost [email protected]

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf 2017