Cronfa newydd gwerth £15 miliwn ar gael i fannau addoli rhestredig yng Nghymru
Gall mannau addoli rhestredig ledled Cymru wneud cais i gronfa newydd un-tro gwerth £15 miliwn am gyllid ar gyfer gwaith trwsio brys i doeau.
Bydd y grantiau hyn yn helpu i sicrhau bod yr adeiladau hanesyddol hyn yn gallu aros ar agor ar gyfer gwasanaethau, gwasanaethau coffa a digwyddiadau ac achlysuron cymunedol eraill.
Dim ond un cyfle sydd i wneud cais a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 30 Ionawr 2015.
Mae’r grantiau hyn ar gael diolch i Gronfa Trwsio Toeau Mannau Addoli Rhestredig a ariennir gan lywodraeth y DU. Sefydlwyd y gronfa gan Ganghellor y Trysorlys yn Natganiad yr Hydref a gweinyddir hi gan Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol.
Mae grantiau gwerth rhwng £10,000 a £100,000 ar gael tuag at y gost o wneud atgyweiriadau brys i doeau, megis gorchuddiadau a nenfydau. Gellir defnyddio’r gronfa hefyd i wella systemau cael gwared ar ddŵr glaw megis cwteri a draeniau.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:
Yn ystod misoedd y gaeaf, gall y tywydd garw gael effaith ddinistriol ar ein hadeiladau hanesyddol megis mannau addoli.
Mae’r adeiladau hyn yn symbolau o ddiwylliant a hanes ein cenedl ac maent wrth galon ein cymunedau ledled Cymru.
Gobeithio y bydd mannau addoli ym mhob rhan o Gymru yn manteisio ar y cyfle unigryw hwn.