Datganiad i'r wasg

Cyfnod newydd o dyfiant i ogledd Cymru wrth i gronfa llywodraeth croesawu arweinyddiaeth newydd

Penodwyd Arweinydd Cyngor Wrecsam Mark Pritchard fel Cadeirydd dros-dro Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Penodwyd Arweinydd Cyngor Wrecsam Mark Pritchard fel Cadeirydd dros-dro bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i oruchwylio cronfa llywodraethau y DU a Chymru sydd gwerth miliynau i hybu twf rhanbarthol.

Mae Llywodraeth y DU a Chymru hefyd wedi cytuno ar gymorth ychwanegol ar ffurf dau gyfarwyddwr anweithredol newydd ac i uwch arbenigwr buddsoddi i’w benodi er mwyn cyflymu gwariant yr arian gan brosiectau ar lawr.

Mae’r Fargen Twf Gogledd Cymru yn rhan bwysig o’r ymdrechion i hybu twf economaidd ledled gogledd Cymru. Mae’r gronfa yn buddsoddi cyfanswm gwerth £240m o Lywodraeth y DU a Chymru i gefnogi buddsoddiad sector preifat pellach gwerth lan at £730m.

Disgwylir cyfanswm y buddsoddiad gwerth £1bn i gynhyrchu 4,000 o swyddi newydd a £2.4bn yn ychwanegol mewn nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir (gwerth ychwanegol crynswth).

Bydd y gronfa yn buddsoddi mewn sectorau twf uwch fel bwyd-amaeth a thwristiaeth, gweithgynhyrchu a phrosiectau egni carbon isel, yn ogystal â buddsoddi mewn prosiectau a fydd yn dorri rhwystrau i dwf economaidd fel cysylltedd digidol.

Dywed Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith:

Twf economaidd yw ein prif flaenoriaeth a does dim diwedd i’n huchelgais ar gyfer gogledd Cymru.

Mae’r Fargen Twf yn cynnig miliynau mewn buddsoddiad hanfodol, gan hybu twf a swyddi.

Gydag arweinyddiaeth newydd a mwy o gymorth, mae ein ddwy lywodraeth wedi darparu’r offer sydd eu hangen i fwrw ymlaen i gyflawni buddsoddiad le mae ei angen fwyaf.

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans:

Trwy’r fargen Twf Gogledd Cymru drawsnewidiol yma, rydym yn ymroddedig  i weithio gyda phartneriaid i adeiladu ar gryfderau mewn sectorau fel gweithgynhyrchu tra’n ddiogelu dyfodol diwydiannau allweddol fel twristiaeth. Y canlyniad bydd mwy o swyddi a chyfleoedd o ansawdd well, sylfaen sgiliau gwell a ffyniant i drigolion ar draws yr ardal.

Rydym eisoes yn gweld cefnogaeth £120m llywodraeth Cymru ar gyfer y fargen yn dechrau cyflawni, gyda phrosiectau fel y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter (EEOC) yn Wrecsam yn cael eu hadeiladu a fe fydd yn fuan yn darparu canolfan arbenigol sy’n dod ag ymchwil a datblygu, cydweithio a sgiliau busnes trwy ddatblygiadau mewn opteg, ffotoneg a chyfansoddion fel dewisiadau amgen ysgafn ar gyfer gweithgynhyrchu ynghyd.

Dywed arweinydd Cyngor Wrecsam Mark Pritchard:

Mae Bargen Twf Gogledd Cymru yw sylfaen cydweithredu economaidd rhwng y chwe chyngor yng ngogledd Cymru, a Llywodraethau y DU a Chymru. 

Mae’n hanfodol i dwf economaidd cynaliadwy yng Ngogledd Cymru ac yn cysylltu â’r cydweithrediad strategol ehangach a ddaw o gyflawni mentrau fel Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam a Porthladd Rhydd Ynys Môn.

Mae’r chwe arweinydd Gogledd Cymru yn croesawu cymorth y llywodraethau ac yn cyd-weithio gyda llywodraethau y DU a Chymru, arweinwyr busnes a swyddogion swyddfa Uchelgais Gogledd Cymru i gyflymu gwaith Bargen Twf Gogledd Cymru. 

Bydd Arweinwyr Cyngor Gogledd Cymru yn berchen ac yn arwain y newidiadau angenrheidiol i symud Bargen Twf Gogledd Cymru ymlaen. Mae hon yn gyfnod newydd o weithredu a chyflawni ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru. Bydd buddsoddiad, adeiladwaith, swyddi a thwf yn dod yn fuan.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2024