Adroddiad annibynnol yn dathlu effaith gadarnhaol y Lluoedd Cadetiaid yng Nghymru
Mae ymchwil newydd gyffrous wedi’i chyhoeddi sy’n dangos yr effaith gadarnhaol y mae’r Lluoedd Cadetiaid yn ei chael ar bobl ifanc, gwirfoddolwyr sy’n oedolion, a’r gymdeithas ehangach yng Nghymru.
Comisiynwyd yr ymchwil gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru a’i gyflawni gan yr Athro Simon Denny, yr Athro Richard Hazenberg a Dr Claire Peterson-Young o Brifysgol Northampton.
Canfu’r astudiaeth fod aelodaeth o’r Lluoedd Cadetiaid wedi arwain at fwy o symudedd cymdeithasol, gwell canlyniadau addysgol a mwy o sgiliau cyflogadwyedd.
Dywedodd yr Athro Denny, prif awdur yr adroddiad ‘Getting an Edge: The Impact and Value of the Cadet Forces in Wales’:
Mae pobl ifanc sydd wedi bod yn y Lluoedd Cadetiaid am ddwy flynedd neu fwy wedi datblygu rhinweddau, meithrin sgiliau, cael profiadau ac ennill cymwysterau sy’n rhoi mantais glir iddyn nhw dros eu cyfoedion sydd heb fod yn y cadetiaid wrth iddyn nhw wneud cais am addysg bellach ac addysg uwch, ac am swyddi.
Mae’r fantais hon yn arbennig o bwysig i’r bobl ifanc hynny sydd dan anfantais economaidd.
Mae gwirfoddolwyr sy’n oedolion hefyd yn elwa o fod yn aelodau o’r Lluoedd Cadetiaid o ran eu sgiliau a’u cymwysterau, gan arwain yn aml at gyfleoedd gyrfa gwell.
Fodd bynnag, mae’r Adroddiad yn nodi bod nifer y plant oed uwchradd sy’n aelodau o’r Lluoedd Cadetiaid yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU ac mae’n argymell y dylid mynd i’r afael â hyn.
Dywed:
Mae nifer y cadetiaid yng Nghymru yn is na’r disgwyl, gyda dim ond 2.4% o blant cymwys yn rhan o’r Lluoedd Cadetiaid, o’i gymharu 4.2% ledled y DU. Mae cyfle i gynyddu nifer y plant sy’n aelodau o’r Lluoedd Cadetiaid er mwyn mynd i’r afael â’r tangynrychiolaeth gymharol hon. Po fwyaf o blant sy’n gadetiaid, y mwyaf o blant fydd yn elwa o’r manteision sylweddol.
Mae’r Adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod nifer y cadetiaid yng Nghymru sy’n ennill cymwysterau galwedigaethol yn cael ei gyfyngu gan y cyllid y gall y Lluoedd Cadetiaid ei ddarparu:
O ystyried y manteision sylweddol i bobl ifanc o ennill y cymwysterau hyn, a sefyllfa’r Lluoedd Cadetiaid fel rhan o’r ecosystem ddysgu yng Nghymru, mae dadl gref dros gael buddsoddiad (os bydd adnoddau’n caniatáu) gan ddeiliaid cyllidebau y tu allan i’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Meddai’r Athro Denny:
Mae’r Lluoedd Cadetiaid yng Nghymru yn darparu allbynnau a chanlyniadau sy’n helpu i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru ym meysydd tlodi plant, addysg, paratoi ar gyfer cyflogaeth, ac iechyd a lles.
Mae’r Lluoedd Cadetiaid yn bwysig i’w haelodau, ac i Gymru fel gwlad. Mae’n bwysig bod cyfraniad y Lluoedd Cadetiaid i Gymru yn cael ei gyfleu a’i ddeall yn glir gan lunwyr polisïau, arweinwyr addysg a chyflogwyr.