Neges Blwyddyn Newydd 2015
Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb AS yn edrych yn ôl ar 2014 ac ymlaen i 2015.
Bu 2014 yn flwyddyn ardderchog i Gymru – blwyddyn pryd y dangosodd ein gwlad ei huchelgais, ei hymrwymiad i ragoriaeth a’i phenderfyniad i lwyddo.
Y llynedd disgleiriodd Cymru ar lwyfan y byd.
Ym mis Gorffennaf, dangosodd ein hathletwyr i’r byd y doniau rhyfeddol sydd gan Gymru ym maes chwaraeon – ein llwyddiant mwyaf erioed o ran medalau yng Ngemau’r Gymanwlad.
Ym mis Medi, rhoddodd uwchgynhadledd Nato gyfle i ni ddangos i arweinwyr byd yr hyn y gallwn ei gyflawni – a gwnaeth hynny argraff arnynt oll.
A rhoddodd yr uwchgynhadledd fuddsoddi ym mis Tachwedd gyfle i’n busnesau arloesol ddangos i fuddsoddwyr byd-eang pam fod Cymru’n lle mor atyniadol i greu swyddi.
Yn 2014, tyfodd economi’r DU yn gyflymach nag unrhyw economi fawr ddatblygedig arall – ac mae Cymru wedi bod yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ran arall o’r DU.
Ym mhob rhan o Gymru mae busnesau gwych sy’n cynhyrchu mwy, yn masnachu mwy ac yn creu swyddi i’r rhai sydd eisiau datblygu eu doniau.
Yn 2015 mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiannau hyn, edrych ymlaen at y sialensiau nesaf a chodi’r bar hyd yn oed yn uwch – mwy o dwf economaidd, mwy o swyddi a mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio’n galed yng Nghymru.
Blwyddyn newydd dda.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2015Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Ionawr 2015 + show all updates
-
Added translation
-
First published.