Neges Blwyddyn Newydd Ysgrifennydd Cymru
Roedd 2015 yn flwyddyn ardderchog arall i Gymru. Mae’n edrych yn debyg bod gan 2016 botensial mawr i fod yr un peth hefyd.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, rwyf wedi ymweld â nifer o gwmnïau - mawr a bach - ac wedi gweld gyda llygaid fy hun eu bod yn gwneud mwy na dim ond llwyddo, maent yn ffynnu. Mae’r entrepreneuriaid uchelgeisiol sydd y tu ôl i’r cwmnïau hyn yn cefnogi marchnad swyddi fywiog a chadarn yng Nghymru, sydd wedi gweld cynnydd mewn lefelau cyflogaeth o 42,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fodd bynnag, nid y rhifau yn unig sy’n bwysig. Mae angen i bobl ar hyd a lled y wlad elwa o economi sy’n adfywio. Rwy’n hyderus y byddant yn gwneud yn ystod 2016. Bydd cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol ym mis Ebrill yn cynyddu cyflogau clir cannoedd ar filoedd o weithwyr yng Nghymru. Bydd hyn, ynghyd â’n hymdrechion i ostwng trethi, yn golygu y bydd pobl sy’n gweithio’n galed yn cadw mwy o’r arian y maent yn ei ennill, a fydd yn ein helpu i ddod yn agosach at fod yn gymdeithas sy’n cael cyflogau uwch, sy’n talu llai o drethi a lle mae llai o bobl yn cael taliadau lles.
Hefyd, yn 2015, dathlwyd y ffaith bod Caerdydd yn brifddinas Cymru ers 60 mlynedd. Cynyddodd hyn ei enw da yn fyd-eang fel lle gwych i ymweld ag ef, i aros ac i wneud busnes. Cadarnhawyd ei chymwysterau fel gwesteiwr safon byd-eang i ddigwyddiadau mawr yn ystod twrnamaint hynod Cwpan Rygbi’r Byd. Mae’r gobaith o gael ‘Bargen Dinas’ ar gyfer y brifddinas yn cynnig cyfle gwych i adeiladu partneriaeth unigryw rhwng y sector gyhoeddus a’r sector preifat i drawsnewid ein Prifddinas-Ranbarth. Edrychwn ymlaen at dderbyn cynigion cadarn o Gaerdydd a Llywodraeth Cymru a fydd yn helpu i ddiogelu dyfodol economaidd un o ddinasoedd mawr y DU.
Yng ngogledd Cymru, rydym yn gweld buddion Northern Powerhouse yn barod. Fel yr ydym yn gwella’r cysylltiadau rhwng ein dinasoedd yn y gogledd, rwy’n hyderus y bydd busnesau yng ngogledd Cymru yn ffynnu.
Roedd 2015 yn garreg filltir i daith datganoli Cymru hefyd, gan i’r Llywodraeth gyflawni ei haddewid i gyflwyno cyllid gwaelodol hanesyddol a dwyn ymlaen deddfwriaeth ddrafft i gryfhau’r Cynulliad Cenedlaethol. Gyda’r cynlluniau i gyflwyno cyfradd newydd ar gyfer Treth Incwm yng Nghymru, rydym wedi paratoi’r ffordd ar gyfer etholiadau cyffrous a gwahanol iawn yn y Cynulliad ym mis Mai, gyda gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn awr yn atebol i’r bobl am yr arian y maent yn ei wario.
Yn 2016, bydd ein tîm pêl-droed cenedlaethol yn cael eu tro i serennu ar lwyfan chwaraeon y byd ym Mhencampwriaeth Ewrop, yn ystod beth sy’n addo i fod yn haf cofiadwy o chwaraeon.
Yn olaf, diogelwch. Ym mis Ionawr, sefais ochr yn ochr â gwleidyddion ac arweinwyr crefyddol y tu allan i’r Senedd i alaru am y rhai a fu farw yn yr ymosodiad terfysgol Charlie Hebdo. Daeth pobl ar hyd a lled Cymru ynghyd mewn undod a brawdgarwch.
Gwaetha’r modd, nid dyma oedd y digwyddiad terfysgol gwaethaf a welsom yn 2015. Roedd yr ail ymosodiad ar brif ddinas Ffrainc ym mis Tachwedd yn anghredadwy. Mae fy nghysylltiad personol â’r ddinas, a gyda Ffrainc fel gwlad, yn golygu bod yr erchyllterau’n anoddach byth i’w deall.
Rydym yn byw mewn byd peryglus, ond prif ddyletswydd y Llywodraeth yw cadw pobl y DU yn ddiogel, a gwneud yn siŵr ein bod yn byw mewn cymdeithas gynhwysol. Wrth inni fynd i’r afael â’r bygythiad byd-eang gan ISIS, hoffwn dalu teyrnged i’r arweinwyr crefyddol yng Nghymru sy’n condemnio dysgeidiaethau eithafol ac sy’n gweithio gyda’i gilydd i atal eithafiaeth a chynnal cymunedau cydlynol.
Ar ran tîm Gweinidogol Swyddfa Cymru, hoffwn ddymuno 2016 hapus, heddychlon a ffyniannus i chi.
Stephen Crabb
Ysgrifennydd Gwladol Cymru