Penodi Nick Goodwin yn Warcheidwad Cyhoeddus
Mae enw Gwarcheidwad Cyhoeddus newydd Cymru a Lloegr a Phrif Weithredwr Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cael ei gyhoeddi.
Mae Nick Goodwin, cyn gyfarwyddwr polisi mynediad at gyfiawnder y Weinyddiaeth Gyfiawnder, wedi ymgymryd â rôl y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar ôl i Alan Eccles ymddeol.
Roedd yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth agored a theg am y rôl ac mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Gauke, wedi cymeradwyo ei benodiad.
Yn y gorffennol mae Nick wedi bod yn bennaeth ar dimau yn arwain ar y polisi galluedd meddyliol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae wedi gweithio’n agos gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r blaen.
Dywedodd:
Rwy’n falch o ymgymryd â rôl Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rwy’n gwybod o fy mhrofiad blaenorol yn gweithio ar bolisi galluedd meddyliol, pa mor bwysig yw gwaith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ran gwarchod y rhai sydd wedi colli eu galluedd meddyliol neu a allai golli eu galluedd meddyliol yn y dyfodol, a hefyd o ran cefnogi’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw.
Dywedodd hefyd:
Mae ymroddiad ac arbenigedd pob aelod o staff rwyf wedi cwrdd â nhw ac wedi gweithio gyda nhw yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi creu cryn argraff arnaf i, yn ogystal â chymaint y mae’r sefydliad wedi datblygu o dan arweiniad Alan. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r staff a’r rhanddeiliaid er mwyn gwella’r gwasanaethau hanfodol, er mwyn i ni allu cyflawni’r agenda uchelgeisiol, sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr, y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i gosod.
Alan Eccles ymddeolodd ar 30 Mehefin ar ôl treulio saith mlynedd fel Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a dros 30 mlynedd fel bargyfreithiwr.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Medi 2019 + show all updates
-
Added translation
-
First published.