"Potensial diderfyn" Pwerdy'r Gogledd i ogledd Cymru, meddai Stephen Crabb
Stephen Crabb: "Ni ddylai cyfyngiad fod ar raddfa uchelgais gogledd Cymru o ran Pwerdy'r Gogledd"
Mae gan ogledd Cymru gyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i fanteisio ar Bwerdy’r Gogledd a gyrru ton newydd o fuddsoddi a chyfleoedd ar draws y rhanbarth, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw.
Ni ddylai cyfyngiad fod ar raddfa uchelgais gogledd Cymru o ran Pwerdy’r Gogledd, dywedodd Stephen Crabb wrth gyfarfod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
Wnaeth hefyd dadlau o blaid datganoli o fewn Cymru i roi’r offer a’r dulliau y mae gogledd Cymru eu hangen i ddatgloi potensial economaidd Pwerdy’r Gogledd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol:
Mae Pwerdy’r Gogledd wedi cael dechrau arbennig o dda, wrth i ddinasoedd mawr gogledd Lloegr ffurfio bwa arloesi wedi ei ategu gan gynlluniau rhanbarthol newydd ar gyfer tai, buddsoddi, cyflogaeth a meiri etholedig. Y mis diwethaf, daeth arlywydd Tsieina - arweinydd un o economïau mwyaf pwerus y byd - i Fanceinion i ddysgu mwy am yr hyn y gall Pwerdy’r Gogledd ei gynnig i weddill y byd.
Mae’r ffaith bod Tsieina yn ystyried Gogledd Prydain fel rhanbarth ar wahân o ran cynnal busnes yn brawf bod ein hymdrechion i adfer cydbwysedd economi’r Deyrnas Unedig yn dwyn ffrwyth.
Dywedodd Mr Crabb y dylai arweinwyr busnes fod wrth y llyw er mwyn sicrhau bod gogledd Cymru yn manteisio ar Bwerdy’r Gogledd.
Yng ngogledd Cymru, rydyn ni bob amser wedi edrych tua’r dwyrain i Lerpwl a Manceinion ar gyfer twf economaidd, yn gymaint ag y byddwn ni’n edrych tua’r de i Gaerdydd ac Abertawe. Mae Pwerdy’r Gogledd yn cynrychioli ein cyfle gorau i ddod â newid trawsnewidiol i ogledd Cymru. Ond yn yr un modd ag y mae gan lywodraeth y Deyrnas Unedig hyder i ddatganoli pwerau o’r canol i lawr i Fanceinion, mae angen i ni weld yr un hyder yng ngogledd Cymru o du gwleidyddion Caerdydd.
Rydw i eisiau gweld cynghrair gref rhwng y gymuned fusnes yng ngogledd Cymru a’u partneriaid. Eu rôl nhw yw cadw Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn agos at yr achos fel y gall y rhan hon o’r wlad sicrhau’r seilwaith safon fyd-eang y mae’n ei haeddu.
Ar ôl annerch Sefydliad y Cyfarwyddwyr, bydd Stephen Crabb yn ymweld â charchar Wrecsam gydag Andrew Selous, y Gweinidog Carchardai.
Fe fyddan nhw’n cwrdd â rhai o’r perchnogion busnesau bach a lleol sy’n cael budd o gontractau sy’n deillio o’r gwaith adeiladu.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Ogledd Cymru, sydd ag economi sy’n tyfu’n gyflym yn seiliedig ar gymysgedd ddeinamig o allforwyr mawr a sector busnesau bach sy’n ffynnu,” dywed Mr Crabb.
Mae prosiectau sector cyhoeddus fel carchar Wrecsam yn dangos bod y rhanbarth mewn lleoliad gwych i wneud i fuddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd weithio.
Bydd y carchar yn creu tua 1,000 o swyddi ac yn rhoi hwb aml-filiwn i’r economi leol a chenedlaethol unwaith y bydd yn weithredol.
Disgwylir y bydd tua £50 miliwn yn cael ei wario gyda busnesau bach a chanolig eu maint, £30 miliwn gyda busnesau lleol, a bydd hanner y gweithlu cyfan yn cael eu recriwtio o’r ardal leol, gan gynnwys tua 100 o brentisiaethau.