Uwchgynhadledd rheilffyrdd Gogledd Cymru yn pwyso am foderneiddio yn y rhanbarth
Gweinidogion o Lywodraeth y DU mewn uwchgynhadledd rheilffyrdd i sicrhau bod Gogledd Cymru yn elwa o Bwerdy'r Gogledd.
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, a’r Gweinidog Rheilffyrdd, Claire Perry, yng Ngogledd Cymru heddiw (dydd Iau 12 Tachwedd) yn gobeithio cytuno ar greu corff mawr newydd i fynd â moderneiddio’r rheilffyrdd rhagddo yn y rhanbarth.
Mae’r ddau weinidog mewn uwchgynhadledd rheilffyrdd yn Llandudno, lle mae disgwyl y cyhoeddir tasglu newydd, a fydd yn cynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a busnesau. Ei rôl fydd cyflwyno achos manwl i Lywodraeth y DU dros foderneiddio’r rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru.
Bydd cynnig y tasglu’n cael ei gynnig gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sy’n cynnwys ffigurau busnes amlwg o’r rhanbarth. Ynghyd â’r ddau weinidog o Lywodraeth y Du mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, hefyd yn yr uwchgynhadledd.
Mae disgwyl y cytunir ar fanylion y corff newydd yn yr uwchgynhadledd. Mae cefnogwyr pwysig o’r ochr draw i’r ffin yn cynnwys Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae Gogledd Cymru yn gartref i allforwyr mawr a sector busnesau bach a chanolig sy’n ffynnu. Mae’r rhanbarth deinamig hwn yn haeddu seilwaith gyda’r gorau yn y byd er mwyn ei helpu i ffynnu.
Mae Pwerdy’r Gogledd yn cysylltu dinasoedd mawr gogledd Lloegr i ail gydbwyso’r economi drwy hybu twf a buddsoddiad newydd - rhaid i Gymru beidio â chael ei gadael ar ôl. Dyma’r amser i greu’r rhwydwaith trafnidiaeth modern sydd ei angen ar fusnesau Gogledd Cymru er mwyn elwa ar fanteision gweledigaeth Pwerdy’r Gogledd.
Dywedodd y Gweinidog Rheilffyrdd, Claire Perry:
Mae’r llywodraeth un genedl hon yn benderfynol y bydd pob rhan o’r DU yn elwa o’r symiau mwy nag erioed o’r blaen rydyn ni’n eu buddsoddi mewn trafnidiaeth. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ail gydbwyso ein heconomi ac mae’n iawn y dylai Gogledd Cymru fod yn rhan o hynny.
Bydd teithwyr yn elwa o siwrneiau gwell diolch i’n cynigion i wella’r signalau ar y rheilffordd rhwng y Fflint a Chaergybi, a bydd y cysylltiad Halton Curve yn creu gwasanaethau rheolaidd uniongyrchol rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl am y tro cyntaf mewn degawdau. Bydd datganoli masnachfraint Cymru a’r Gororau hefyd yn helpu i sicrhau bod anghenion lleol yn cael eu diwallu. Ond wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae hi’n hollbwysig bod pobl, arweinwyr a busnesau Cymru yn cydweithio i greu achos clir dros ragor o welliannau.