Mae nifer y bobl sy'n cael benthyciadau Dechrau Busnes yng Nghymru wedi cynyddu 30%
Stephen Crabb: "Rydym yn helpu pobl ifanc ledled Cymru i droi uchelgais ac arloesed yn fusnesau llewyrchus"
Mae nifer y bobl sy’n cael benthyciadau Dechrau Busnes yng Nghymru wedi cynyddu 30 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (19 Ionawr).
Mae 712 o entrepreneuriaid yng Nghymru wedi cael gwerth bron £4.5 miliwn o Fenthyciadau Dechrau Busnes – mae 89 o’r bobl hyn yng Nghaerdydd ac wedi cael £616,959. Mae’r entrepreneuriaid hyn wedi lansio eu busnesau eu hunain ac yn cyfrannu at dwf economi Cymru a’r nifer gynyddol o swyddi yng Nghymru.
Mae’r Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes yn rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i entrepreneuriaid uchelgeisiol ledled y DU ar ffurf benthyciadau ad-daladwy a mentor busnes. Mae’r rhain yn helpu cwmnïau arloesol, newydd i gael eu traed oddi tanynt; ac yn rhoi’r arbenigedd i’r entrepreneuriaid sicrhau bod eu cwmnïau yn llwyddo.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hyn yn newyddion gwych i economi Cymru. Rydym yn helpu pobl ifanc ledled Cymru i droi uchelgais ac arloesed yn fusnesau llewyrchus.
Ers 2010, rydym wedi gweld 26,000 o fusnesau newydd yng Nghymru. Mae cynlluniau fel Benthyciadau Dechrau Busnes yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar egin entrepreneuriaid ledled Cymru i droi eu syniadau yn fusnesau byw, dichonadwy.
Mae ein cynllun economaidd hirdymor yn ymwneud â chefnogi busnesau bach, cefnogi uchelgais ac annog mwy o bobl ifanc i wireddu eu breuddwydion. Rydw i wrth fy modd yn gweld hyn yn digwydd ledled Cymru a gobeithio y bydd mwy o bobl ifanc yn gwneud cais i’r cynllun ac yn cael y cyfle i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Astudiaethau Achos:
Hughleon Controls
Dechreuodd Alexandre ei fusnes, Hughleon Controls, gyda help £15,000 o fenthyciad Dechrau Busnes. Mae Alexandre yn ddylunydd cynnyrch; mae’n gweithio fel ymgynghorydd ym maes electroneg ar gyfer Prifysgol De Cymru. Mae wedi dylunio cynnyrch i helpu pobl anabl i yrru. Mae ei gynnyrch yn cynnig yr holl reolaethau sydd eu hangen ar gar, er enghraifft cyfeirwyr, sychwyr, wasieri ac ati, mewn un pad rheoli diwifr. Mae’r cynnyrch wedi’i ddylunio’n bennaf i bobl ag un fraich yn unig.
Cafodd Alexandre ei fentora a disgrifiodd hyn fel bod yn ‘ddefnyddiol iawn’.
Salon Gwallt Amaryllis
Agorodd Tiffany Hall ei salon gwallt, Amaryllis, gyda help £12,500 o Fenthyciad Dechrau Busnes. Mae Amaryllis yn salon ecogyfeillgar yn agos at ganol dinas Caerdydd. Agorwyd y salon gan y ffrindiau Tiffany Hall a Rebecca O’Brien. Cyn dechrau’r busnes, bu Tiffany a Rebecca yn gweithio gyda’i gilydd mewn salon arall yng Nghaerdydd. Mae Rebecca yn steilydd ac mae Tiffany yn arbenigo mewn lliwio. Mae gan y ddwy ddeng mlynedd o brofiad fel gweithwyr trin gwallt.
Agorodd Salon Gwallt Amaryllis ym mis Ebrill 2014 ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Mae Tiffany wrth ei bodd gyda chynnydd ei busnes. Mae’r salon yn profi twf o fis i fis ac mae wedi meithrin sail o gleientiaid rheolaidd sy’n dod nôl dro ar ôl tro. Mae Tiffany a Rebecca wedi cyflogi dau aelod ychwanegol o staff.
Roedd Tiffany yn hapus iawn gyda’r gefnogaeth a gafodd gan ei phartner cyflawni, Busnes mewn Ffocws. Teimlai Tiffany fod y mentora ariannol a gafodd yn ddefnyddiol iawn, a chred na fyddai wedi cael ei chymeradwyo ar gyfer y benthyciad heb gefnogaeth wych Busnes mewn Ffocws.
Blue Honey Vintage
Agorodd Joshua Dymond ei siop glasurol ffasiynol, Blue Honey Vintage, gyda help £5,000 o Fenthyciad Dechrau Busnes. Siop sy’n gwerthu recordiau finyl a dillad clasurol ffasiynol yng Nghaerdydd yw Blue Honey Vintage.
Cyn dechrau ei fusnes, cwblhaodd Joshua Radd Cynhyrchu Ffilm a Fideo yn Llundain. Ar ôl cwblhau ei radd, roedd Joshua yn awyddus i sefydlu ei fusnes ei hun ac roedd manteision gweithio iddo ef ei hun yn apelio ato’n fawr. Dechreuodd Blue Vintage Honey fel stondin farchnad yn ardal ffasiwn Caerdydd. Bu’r stondin yn llwyddiannus iawn ac ar ôl blwyddyn o fasnachu, penderfynodd Joshua ei bod hi’n amser agor siop.
Gwnaeth Joshua gais am y Benthyciad Dechrau Busnes fel bod ganddo’r arian i roi trefn ar ei siop. Agorodd siop Blue Honey Vintage ar y 7fed o Dachwedd 2014 ac mae’r busnes wedi bod yn mynd yn dda iawn. Mae Joshua yn falch iawn o gynnydd ei fusnes.
Dywedodd Joshua na allai weld unrhyw fai ar ei bartner cyflawni, Busnes mewn Ffocws. Dywedodd fod y broses o sicrhau’r benthyciad yn hawdd iawn, cynigiwyd mentora iddo ar ôl iddo gael y benthyciad ond teimlai nad oedd angen hynny arno.
Fraser and Quinn
Agorodd Ruth Quinn ei salon gwallt, Fraser and Quinn, gyda help £3,000 o Fenthyciad Dechrau Busnes. Agorodd y salon ym mis Medi 2014 ac mae busnes wedi bod yn gyson. Mae Ruth wedi denu rhai cleientiaid newydd ac mae’n gadarnhaol am ddyfodol ei busnes.
Dywedodd Ruth fod y mentora a gafodd gan ei phartner cyflawni, Busnes mewn Ffocws, yn ddefnyddiol iawn. Soniodd ei bod wedi cymryd mis iddi gael y benthyciad a’i bod yn teimlo bod hyn yn rhy hir. Fodd bynnag, rydym ni o’r farn bod hyn yn amser rhesymol.