Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn penodi cyfarwyddwr anweithredol newydd
Greig Early wedi’i benodi’n gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae Greig Early wedi’i benodi’n gyfarwyddwr anweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, bydd Greig hefyd yn aelod o’n Bwrdd Portffolio a Newid a’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd.
Unigolion uwch o’r tu allan i’r llywodraeth yw cyfarwyddwyr anweithredol, a benodir i herio adrannau ac asiantaethau gweithredol. Eu rôl yw:
- rhoi cyngor i weinidogion a swyddogion ar oblygiadau gweithredu a chyflawni cynigion polisi
- darparu cymorth, arweiniad a her annibynnol ar gynnydd a gweithrediad cyfeiriad strategol y sefydliad
- cynghori ar berfformiad a monitro gweithrediad cynlluniau busnes
Ynghylch penodiad Greig, dywedodd y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Prif Weithredwr, Amy Holmes:
Rydym yn falch iawn bod Greig wedi ymuno â Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd ei wybodaeth a’i brofiad, yn enwedig o ran trawsnewid digidol, yn cael eu croesawu wrth i ni anelu at ddatblygu ein proses o foderneiddio ein gwasanaethau atwrneiaeth arhosol.