Datganiad i'r wasg

Lansio cyfeiriadur ar-lein yr hyfforddwyr gyrru

Mae'r gwasanaeth ar-lein ei lansio gan DSA - i'w gwneud yn haws i yrwyr dysgwyr i ddod o hyd i hyfforddwyr gyrru cymwys yn eu hardal.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, lansiwyd gwasanaeth gan yr Asianaeth Safonau Gyrru (DSA) – gwasanaeth ar-lein rhad ac am ddim i’w gwneud yn haws i’r rhai sy’n dysgu gyrru gael gafael ar hyfforddwyr gyrru cymwys yn eu hardal.

Mae ‘Dewch o hyd i’ch hyfforddwr gyrru agosaf’ ar gael ar Directgov. Mae’n rhestru’r hyfforddwyr gyrru cymwys sydd wedi llofnodi i fod ar y rhestr, ac yn galluogi defnyddwyr i chwilio am yr hyfforddwyr sydd agosaf atynt drwy nodi eu cod post.

Gall dysgwyr weld hefyd a yw hyfforddwr wedi llofnodi ar gyfer y cod ymarfer gwirfoddol ac a ydynt wedi ymrwymo i barhau gyda’u datblygiad proffesiynol. Mae’r cod ymarfer gwirfoddol yn gosod safonau proffesiynol a gwerthoedd busnes moesol y rhai hynny sy’n gweithio yn y diwydiant.

Meddai’r Gweinidog dros Ddiogelwch ar y Ffyrdd, Mike Penning:

Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn gwneud bywyd yn haws i’r rhai sydd yn dysgu gyrru a rhieni sydd yn chwilio am hyfforddwyr cymwys yn eu hardal. Rwy’n gobeithio y bydd hwyluso yn dewisiadau wrth ddethol pwy i’w defnyddio wrth ddysgu gyrru.

Unwaith y maent wedi cymhwyso, caiff hyfforddwyr cymwys eu profi yn gyson gan yr ASG / DSA i sicrhau eu bod yn cyrraedd safon hyfforddi penodol, ac mae gwirio cyon yn digwydd ar y Datganiadau Manwl gan y Swyddfa Cofnodi Troseddau. Maent yn arddangos bathodyn gwyrdd yn ffenestr flaen y cerbyd yn ystod gwersi.

Ni restrir hyfforddwyr sydd dan hyfforddiant eu hunain yn y cyfeiriadur. Fodd bynnag, gall hyfforddwyr sydd dan hyfforddiant roi rhywfaint o wersi er mwyn ennill profiad a rhaid iddynt arddangos bathodyn pinc yn ffenestr flaen y cerbyd i ddangos nad ydynt yn hollol gymwys.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf 2011