Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ennill gwobr Mind am ofalu am les gweithwyr yn y gweithle
Cyhoeddwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) fel enillydd gwobr Mind 2019 am ofalu am les gweithwyr
Enillodd OPG y fedal aur yn seremoni Mind ddydd Sadwrn y 30ain o Ebrill.
Y fedal aur yw’r wobr fwyaf anrhydeddus y gall sefydliad ei derbyn. Fe’i cyflwynir ond i sefydliadau sydd wedi dangos bod ganddynt bolisïau ac ymarferion hir dymor mewn lle i gefnogi lles gweithwyr.
Dywedodd Paul Farmer, Prif Swyddog Gweithredol Mind, ei fod “wedi ei blesio’n arw bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ennill y wobr aur yn y flwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn indecs Mind”.
Enwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel y sefydliad uchaf o blith sefydliadau’r llywodraeth yn indecs lles Mind a daeth yn drydydd allan o 106 o gyflogwyr ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat am gyfranogiad staff.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Prif Weithredwr, Alan Eccles: “Ym mis Hydref 2016, bu i ni arwyddo addewid cyflogwr Amser i Newid, ac addo y byddwn yn darparu amgylchedd cefnogol i’n staff. Rwyf wrth fy modd bod yr hyn yr ydym wedi ei wneud i greu’r amgylchedd gwaith cywir wedi bod yn bositif i bawb sy’n gweithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael ein cydnabod yn y ffordd yma.”
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yw un o’r ychydig sefydliadau o fewn y gwasanaeth sifil i ddal y Siarter Lles yn y Gweithle, safon achredu lles cenedlaethol y gweithle. Yn ogystal, mae staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu cefnogi gan swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a chynghreiriaid iechyd meddwl ynghyd â rhwydweithiau mewnol sy’n gwneud yr asiantaeth yn lle gwych i weithio.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Mai 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Mai 2019 + show all updates
-
Added translation
-
First published.