Ail-fuddsoddwyd dros £10 miliwn mewn cymunedau yng Nghymru drwy raglen Adfywio Ymddiriedolaethau y rheoleiddiwr
Mae Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn Elusennau, David Holdsworth, yn ymweld ag elusen yn ne Cymru wrth i raglen rheoleiddiwr daro carreg filltir gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae rheoleiddiwr elusennau Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi bod dros £10 miliwn o gronfeydd elusennol nas defnyddiwyd wedi cael ei adfer i gefnogi cymunedau ledled Cymru.
Mae’r rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yn sicrhau bod arian elusennol sy’n segur yn cael ei wario ac yn gwneud gwahaniaeth fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Mae’r rhaglen yn helpu elusennau drwy gefnogi a chynghori ymddiriedolwyr sy’n ei chael hi’n anodd gwario eu hincwm, recriwtio ymddiriedolwyr newydd, nodi buddiolwyr, neu ddod o hyd i amser i redeg yr elusen.
Mae achosion da, sefydliadau cymunedol ac elusennau ledled Cymru wedi derbyn cyfanswm o £10,361,324 ers i’r rhaglen ddechrau yn 2021. Gyda chymorth y rhaglen, mae 72 o elusennau a oedd yn segur bellach yn gweithredu eto.
Pan na all elusen barhau, ond mae ganddi gronfeydd sydd heb eu gwario, mae’r rheoleiddiwr yn helpu ymddiriedolwyr i nodi elusen neu elusennau sydd â dibenion tebyg a all ddefnyddio’r arian fel y bwriadwyd. Gall y rhai na allant ddod o hyd i elusen addas drosglwyddo arian i Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’r rheoleiddiwr wedi goruchwylio trosglwyddo cyfanswm o £1,379,361 i Sefydliad Cymunedol Cymru.
Wrth nodi’r garreg filltir hon, ymwelodd Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau, David Holdsworth, â Dinas Powys Voluntary Concern – derbynnydd arian gan y Sefydliad Cymunedol. Ers dros 50 mlynedd, mae’r elusen wedi gweithio gyda’r gymuned leol i alluogi’r henoed a phobl â symudedd cyfyngedig i gynnal eu hannibyniaeth, gan ddarparu gwasanaethau megis cludiant i’r ganolfan feddygol leol, gwasanaethau lles a rhaglen cinio cawl. Ar ôl derbyn grant, mae’r elusen wedi ehangu ei gardd les.
Dywedodd David Holdsworth, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau:
Mae’n hollbwysig bod pob ceiniog o arian elusennol yn mynd lle y bwriadwyd. Rwy’n falch iawn o fod yng Nghymru eto, i weld effaith ein rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau fy hun. Rydym bellach wedi dosbarthu dros £10 miliwn o gronfeydd segur , a thrwy barhau i weithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, Llywodraeth Cymru ac ymddiriedolwyr, rwy’n hyderus y gallwn roi hwb pellach i achosion da ledled Cymru. Rwy’n annog unrhyw un sy’n gweithio gydag elusen sydd wedi mynd yn anweithgar i gysylltu â ni.
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
Yn y cyfnod economaidd heriol hwn, mae elusennau ac ymddiriedolaethau bach yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddiwallu anghenion brys cymunedau ledled Cymru.
Rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r Comisiwn Elusennau, trwy’r rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau, i ddatgloi £10 miliwn o gronfeydd elusennol nas defnyddiwyd i helpu i gefnogi pobl ledled Cymru.
Rydym yn cydnabod bod ymddiriedolwyr yn pryderu am gronfeydd anweithredol, ac rydym yma i’w cefnogi i addasu dibenion elusennol neu ryddhau’r cronfeydd hyn i gymunedau mewn angen.
O ganlyniad i’r cymorth hwn, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi gallu buddsoddi mewn mwy o gymunedau Cymreig fel eu bod yn parhau i elwa, fel y bwriadwyd yn wreiddiol, o’r cronfeydd hyn.
Nodiadau i Olygyddion:
- Y Comisiwn Elusennau yw’r adran annibynnol, anweinidogol o’r llywodraeth sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei uchelgais yw bod yn rheoleiddiwr arbenigol sy’n deg, yn gytbwys ac yn annibynnol fel y gall elusennau ffynnu. Bydd yr uchelgais hwn yn helpu i greu a chynnal amgylchedd lle mae elusennau’n adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd ymhellach, ac yn y pen draw yn cyflawni eu rôl hanfodol o ran gwella bywydau a chryfhau cymdeithas. Dysgwch ragor yn: Amdanom Ni - Y Comisiwn Elusennau (www.gov.uk).
- Mae dros £1.2m wedi cael ei adfywio yn Abertawe, bron i £900,000 yng Nghaerdydd a bron i £75,000 yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r swm mwyaf a adferwyd hyd yma yng ngogledd Cymru, yn dod i gyfanswm o dros £1.9m, gyda’r canolbarth yn cyrraedd dros £1.4m. *Mae’r ffigurau’n seiliedig ar ddata cofrestr, felly nid yw hyn yn cynnwys elusennau/cronfeydd nad ydynt yn rhestru rhanbarth penodol o Gymru.
- Manylion cyswllt Adfywio Ymddiriedolaethau: [email protected]
Press office
E-bost [email protected]
Out of hours press office contact number: 07785 748787