Dros 42,000 yn rhagor o safleoedd yng Nghymru i dderbyn band eang cyflym iawn
Alun Cairns: "Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol.”
Bydd datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd i’r cynllun darpariaeth band eang yng Nghymru yn sicrhau y bydd dros 42,000 yn rhagor o safleoedd mewn parciau busnes a stadau diwydiannol ledled y wlad yn elwa o gysylltiad rhyngrwyd cyflym iawn.
Mae Cyflymu Cymru - rhaglen a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth y DU - wedi’i chynllunio i ddod â band eang ffeibr cyflym i ardaloedd ledled Cymru na fyddent wedi ei gael fel arall.
Bydd y rhaglen yn rhedeg tan fis Mehefin 2017 nawr, er mwyn cyflenwi’r safleoedd ychwanegol sydd wedi’u nodi ers i’r prosiect ddechrau. Mae’r safleoedd hyn un ai’n adeiladau newydd, neu roeddent i fod i gael eu cynnwys o dan gynlluniau cwmnïau telathrebu, ond cawsant eu dynodi’n anymarferol yn economaidd yn ddiweddarach.
Mae cyllid gwerth £19m yn cefnogi’r cynllun hwn i ymestyn y rhaglen, sy’n cynnwys cyfraniadau gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a disgwylir cyllid gan yr UE, a bydd BT hefyd yn buddsoddi swm sylweddol o gyllid ychwanegol.
Rhan allweddol o gynllun Llywodraeth y DU ar gyfer twf yw darparu gwell isadeiledd a chysylltedd i Gymru. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam cadarnhaol tuag at sicrhau’r nod hwn.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU, ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol.
Rwy’n falch iawn y bydd dros 40,000 yn rhagor o safleoedd ledled Cymru bellach yn rhannu manteision band eang cyflym iawn - gan ymuno â bron i hanner miliwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru y mae ein prosiect eisoes wedi eu cyrraedd.
Mae mynediad at fand eang cyflymach, mwy dibynadwy yn cael cryn effaith ar ein bywydau - o’r ffordd rydyn ni’n siopa i’r ffordd rydyn ni’n cyfathrebu, ac mae’n helpu busnesau i dyfu a chystadlu yn y farchnad fyd-eang.
Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wneud popeth sy’n bosib i gefnogi’r cynllun uchelgeisiol hwn a sicrhau nad yw Cymru’n cael ei gadael ar ôl yn y chwyldro digidol.
Mae’r mesurau pellach a gyhoeddwyd yn cynnwys:
-
Bydd “Ffeibr ar Alw” ar gael ledled y rhan fwyaf o Gymru, drwy drafodaethau â BT. Mae hon yn dechnoleg band eang cyflym iawn, sy’n canolbwyntio ar fusnesau, a bydd ar gael yn y rhan fwyaf o safleoedd yng Nghymru erbyn diwedd haf 2015.
-
Targed defnyddio band eang cyflym iawn o hanner cant y cant erbyn 2024. 22 y cant yw’r ffigur sy’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd, mewn ardaloedd sydd wedi cael y gwasanaeth am dros flwyddyn, un o’r ffigurau uchaf yn y DU.
-
Mae’r gwaith yn parhau ar gynllun newydd i sicrhau bod cyflymderau cyflym iawn ar gael i holl gartrefi a busnesau Cymru. Bydd yn adeiladu ar lwyddiant cynllun Allwedd Band Eang Cymru ac yn defnyddio amrywiaeth o dechnolegau gan gynnwys technolegau lloeren, di-wifr a 4G i gyflwyno cyflymderau cyflym iawn.
Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg:
Rydyn ni wedi gosod yr her i’n hunain o gyflwyno band eang cyflym iawn i rannau o Gymru lle na fyddai’r farchnad yn mentro mynd, ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd anhygoel drwy Cyflymu Cymru.
Hyd at ddiwedd mis Mehefin, rydyn ni wedi cyflwyno band eang cyflym iawn i bron i hanner miliwn o safleoedd. Mae hynny oddeutu 480,000 na fyddai wedi gallu cael cyflymderau band eang cyflym iawn oni bai amdanom ni.
Mae’r cynnydd hyd yma wedi’i wneud yn bennaf diolch i ymdrechion sylweddol gweithlu BT a’u his-gontractwyr
Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r contract gydag Airband heddiw, ac y bydd BT yn cyflwyno “Ffeibr ar Alw” ledled Cymru, ac yng Nghymru’n unig. Mae band eang cyflymach yn hanfodol ar gyfer ein busnesau, ac mae cyhoeddiadau heddiw’n cydnabod hynny.
Mae Cyflymu Cymru eisoes wedi gwneud cynnydd gwych, gydag oddeutu 480,000 o safleoedd bellach yn gallu manteisio ar gyflymderau band eang cyflymach. Wrth gyfuno hyn â chyflwyno’r rhaglen yn fasnachol, bydd modd i 79 y cant o safleoedd yng Nghymru gael band eang cyflym iawn, sy’n golygu bod Cymru ar y blaen o gymharu â chyfartaledd yr UE a gwledydd fel Ffrainc a’r Eidal.
Dywedodd Ann Beynon, Cyfarwyddwr BT Cymru:
Bydd yr estyniad hwn i’r rhaglen Cyflymu Cymru y mae BT yn helpu i’w hariannu, nid yn unig yn ein galluogi ni i gyrraedd rhai o rannau mwyaf anghysbell y wlad, ond hefyd yn galluogi busnesau mewn ardaloedd maestrefol, os ydynt yn dymuno, i ddefnyddio rhai o gyflymderau band eang cyflymaf y DU.
Bob dydd mae’r rhyngrwyd yn cyffwrdd ein bywydau mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Mae’n cyflwyno cyfleoedd newydd i gysylltu ac i gyfathrebu yn y cartref ac yn y gweithle, a dyna pam y mae heddiw yn nodi datblygiad pwysig arall i Gymru.
Dywedodd Airband, un o’r partneriaid a oedd yn gyfrifol am sefydlu’r cynllun:
-
Rydym yn falch iawn mai ni enillodd y tendr ar gyfer Prosiect Mewnlenwi Cyflymu Cymru.
-
Mae gan Airband rwydwaith eang sy’n ymestyn dros Swydd Gaerwrangon, Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Phowys. Mae’n darparu band eang cyflym iawn i gymunedau gwledig ar hyd a lled y rhanbarthau hyn.
-
Rydym yn awr yn edrych ymlaen at gyflwyno’r rhaglen hon ar hyd a lled Cymru er mwyn gwella cyflymderau a hygyrchedd band eang, yn ogystal â darparu gwell cysylltedd i fusnesau ledled y wlad.