Dyfarnwr Parhaol wedi’i benodi
Mae Mike McMahon wedi’i benodi i fod yn Ddyfarnwr parhaol. Fe fydd yn cymryd lle Paul Douglas, sef y Dyfarnwr interim presennol, ym mis Medi 2023.
Mae Mike McMahon wedi’i gadarnhau fel y Dyfarnwr Annibynnol newydd ar gyfer Swyddfa’r Dyfarnwr.
Mae Mike wedi bod yn Bennaeth Swyddfa yn Swyddfa’r Dyfarnwr ers mis Medi 2020. Cyn hynny, yr oedd yn ombwdsmon yn Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Mae profiad Mike yn pontio arweinyddiaeth weithredol a datrys anghydfodau cymhleth.
Bydd Mike yn ddechrau ei rôl newydd ym mis Medi a bydd recriwtio i ôl-lenwi ei rôl fel Pennaeth Swyddfa yn dechrau maes o law.
Meddai Jim Harra, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr Cyllid a Thollau EF:
“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi Mike i fod yn Ddyfarnwr Annibynnol ar gyfer CThEF, Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac agweddau o waith y Swyddfa Gartref mewn perthynas â’r cynllun Iawndal Windrush’’.
“Mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn darparu gwasanaeth hanfodol i CThEF a’n cwsmeriaid – ac yn sicrhau bod rheolau, safonau, arweiniad a chodau ymarfer yn cael eu rhoi ar waith yn deg ac yn gyson. Mae’r Swyddfa hefyd yn darparu adborth a mewnwelediad i’n sefydliadau, ac mae hyn yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau.’’
“Rwy’n hyderus y bydd Mike , yn ogystal ag ymdrin â chwynion, yn helpu ein sefydliadau i ddysgu o gwynion a mynd i’r afael â materion systematig.”
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 2023Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Medi 2023 + show all updates
-
Added translation
-
Start date for the new Adjudicator has been amended.
-
First published.