Y Prif Weinidog yn cyhoeddi pecyn rheilffordd i drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd a rhoi hwb i economi Cymru
Bydd y Prif Weinidog, David Cameron, yn cyhoeddi pecyn rheilffordd uchelgeisiol a fydd yn rhoi hwb enfawr i economi Cymru.
Yn ei araith yng nghynhadledd buddsoddi’r DU yng Nghasnewydd, bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi bod Llywodraeth y DU wedi cytuno ar becyn cyllid gyda Llywodraeth Cymru i drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd.
Bydd yn cyhoeddi hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn gyfrifol am gostau llawn gwaith trydaneiddio prif reilffordd y Great Western i Abertawe ac yn datganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau fel bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar y fasnachfraint newydd yn 2018.
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron:
Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi heddiw ein bod am fwrw ymlaen â gwaith trydaneiddio Cledrau’r Cymoedd. Ar ôl blynyddoedd o esgeulustod, bydd y rhan hon o Gymru yn cael y seilwaith angenrheidiol o’r diwedd gyda threnau cyflymach, mwy modern a mwy effeithlon. Bydd yr effaith yn enfawr.
Ehangu cyfleoedd cyflogaeth o Gaerdydd ac i’r Cymoedd a helpu pobl sy’n gweithio’n galed o bob cwr o’r wlad wych hon i fwrw ati. Dim ond drwy Lywodraeth y DU y mae hyn wedi bod yn bosib ac mae’n dangos ein cynllun economaidd hirdymor ar waith a’i fod yn gweithio dros bobl Cymru.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru ac mae’n rhoi cymhelliant mawr i fusnesau fuddsoddi yn y wlad. Rwyf yn falch dros ben ein bod yn gallu achub ar y cyfle hwn yn awr i drawsnewid cymunedau’r Cymoedd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth effeithiol yn hollbwysig i unrhyw economi fodern ac mae sawl ardal yn y DU lle mae mwy o angen gwella costau cymudo, amseroedd teithio a darparu gwasanaethau trên amlach, sef yr hyn a ddaw yn sgil y buddsoddiad hwn.
Mae hyn i gyd yn rhan o’n cynllun economaidd hirdymor i Gymru i adfer cydbwysedd yr economi ac ysgogi creu swyddi er mwyn i fwy o bobl allu elwa o sicrwydd cael cyflog rheolaidd.
Bydd y manteision o gael amseroedd teithio byrrach a mwy o gapasiti yn golygu bod y Cymoedd yn gallu manteisio ar y twf economaidd sydd i’w gweld eisoes mewn dinasoedd fel Caerdydd a Chasnewydd, a hynny drwy ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i bobl deithio iddynt.
Byddai’r daith o Ferthyr Tudful a Threherbert i Gaerdydd yn gostwng i ychydig dros 50 munud.
Er mwyn i’r fargen hon lwyddo, bydd Llywodraeth y DU yn gyfrifol am nawdd ac am ariannu’r gwaith ar y rhan rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yng nghynllun trydaneiddio’r Brif Reilffordd i Abertawe – sydd yn werth £105 miliwn. Byddant hefyd yn cyfrannu £125 miliwn at gostau cynllun trydaneiddio Cledrau’r Cymoedd.
Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol wedyn am nawdd a chyflawni prosiect Cledrau’r Cymoedd.