Postio dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau
Bydd angen anfon pob post i'n swyddfa yng Nghaerdydd o 4 Mawrth 2024.
O 4 Mawrth 2024, bydd angen i bob cwmni sydd am ffeilio dogfennau papur eu postio i’n swyddfa yng Nghaerdydd:
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
Ni fyddwn yn derbyn danfoniad post na llaw yn ein swyddfa ym Melfast o 4 Mawrth 2024. Mae cwmnïau sydd wedi cofrestru yn Yr Alban eisoes yn postio eu dogfennau i’n swyddfa yng Nghaerdydd ers mis Medi 2023.
Gall y rhan fwyaf o gwmnïau ffeilio ar-lein yn hytrach na phostio dogfennau papur atom.
Trwy gofrestru ar-lein, byddwch yn:
- arbed amser ac arian i’ch cwmni
- cael cadarnhad ein bod wedi derbyn eich cais
- osgoi gwrthod a bod yn llai tebygol o gael cosbau ffeilio hwyr
- cael mynediad at wasanaethau ar-lein ychwanegol
Byddwn yn parhau i dderbyn post yn ein swyddfa ym Melfast tan 1 Mawrth 2024. Os byddwch yn postio dogfennau i swyddfa Belfast ar ôl 1 Mawrth 2024, bydd eich dogfennau’n cael eu hailgyfeirio a byddant yn cymryd mwy o amser i’n cyrraedd.
Dylai unrhyw un sy’n ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau ddeall eu cyfrifoldebau a’u dyletswyddau cyfreithiol o fod yn gyfarwyddwr cwmni, gan gynnwys y cyfrifoldeb i ffeilio dogfennau ar amser.