Lansio gwobr fawreddog Dylan Thomas yn Swyddfa Cymru
Ysgrifennydd Gwladol i lansio Gwobr Dylan Thomas Rhyngwladol
Caiff Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a noddir gan Brifysgol Abertawe, ei lansio heno mewn digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David Jones AS.
Hon yw’r seithfed Wobr Ryngwladol Dylan Thomas, sef y wobr lenyddol fwyaf ar gyfer ysgrifenwyr ifanc gyda’r bwriad o annog talent greadigol ledled y byd. Mae’n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth ryngwladol ym maes llên ar draws pob genre.
Agorodd ceisiadau ar gyfer y Wobr ar ddydd Gŵyl Dewi 1af Mawrth 2014 ymlaen. Gan gydnabod creadigrwydd a chynhyrchiant llenyddol Dylan Thomas dros 39 mlynedd, mae’r Wobr ar agor i ysgrifenwyr ifanc 39 oed ac iau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30ain o Fai 2014
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn croesawu gwahoddedigion i Dŷ Gwydyr i ddathlu lansiad swyddogol y DU y Wobr. Bydd tri aelod o’r panel beirniadu yn bresennol, gan gynnwys y canwr a’r darlledwr Cerys Matthews, Alison Pearson o’r Telegraph a Nicholas Wroe o’r Guardian ynghyd â’r sylfaenydd a llywydd y wobr; Peter Stead.
Dywedodd:
“Ac yntau wedi ennill bri yn rhyngwladol, rhaid cofio bod Dylan Thomas yn Gymro i’r carn. Rwy’n falch o fod yma yn Swyddfa Cymru, yn cofio amdano, gan roi sylw i dalent lenyddol ifanc o bob rhan o fywyd ac o bedwar ban byd.
“Lluniwyd y Wobr i adlewyrchu cynnyrch creadigol Dylan, yn cynnwys ei farddoniaeth, ei ryddiaith, ei ddramâu a’i straeon byrion. Yma yn Swyddfa Cymru, rydym yn falch iawn o gefnogi’r cysyniad cyffrous hwn. Rydym yn annog pob ysgrifennwr ifanc a’u cyhoeddwyr i gyflwyno ceisiadau i’r gystadleuaeth hon, a fydd yn cynnig llwyfan byd-eang i’r gwaith ac yn ddathliad priodol er cof am fywyd a gwaith Dylan ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant.”
Meddai Peter Stead, sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas:
“Heno, ym mlwyddyn canmlwyddiant Dylan, rydym yn lansio seithfed Wobr Ryngwladol Dylan Thomas. Mae ein henillwyr blaenorol wedi dod o Awstralia, Unol Daleithiau America, Gogledd Iwerddon a Chymru: a llenorion o bob cyfandir wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae’r Wobr er cof am ysgrifennwr a oedd yn adnabyddus yn ei filltir sgwâr ac a aeth ymlaen i ennill bri yn gyflym iawn yn Llundain ac yn rhyngwladol. Gall ysgrifenwyr o dan 39 oed gyflwyno ffuglen, barddoniaeth a drama yn yr iaith Saesneg ar gyfer y Wobr gwerth £30,000. Gobeithio y gall y Wobr lansio gyrfaoedd drwy chwilio a chanfod yr ysgrifenwyr newydd mwyaf cyffrous o bedwar ban byd.”
Meddai’r Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Rwy’n falch iawn bod Prifysgol Abertawe yn noddi Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Dyma un o’r gwobrau mwyaf mawreddog ar gyfer ysgrifenwyr ifanc yn y byd. Mae’r Wobr hefyd yn gwneud gwaith sylweddol gyda sefydliadau addysgol, ac rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â phrosiect sy’n helpu i hyrwyddo ysgrifennu ymysg plant a phobl ifanc. Diolch yn fawr iawn i Ysgrifennydd Gwladol Cymru am gefnogi’r wobr ac am gynnal y digwyddiad lansio hwn.”
“Ym mlwyddyn canmlwyddiant geni Dylan Thomas, mae’n briodol iawn bod y Brifysgol yn ei dref enedigol yn cefnogi gwobr sy’n dwyn ei enw.”
Cadeirydd y panel beirniadu yw Peter Florence, sylfaenydd Gŵyl y Gelli, a’r aelodau eraill yn cynnwys bardd yn seiliedig o India, newyddiadurwr a dawnsiwr Tishani Doshi, canwr a’r darlledwr Cerys Matthews, Alison Pearson o The Telegraph, Nicholas Wroe o The Guardian, ysgrifennu a darlledwr Carolyn Hitt a bardd a chyfieithydd Athro Kurt Heinzelman
Nodiadau i olygyddion:
Am ragor o wybodaeth am Wobr Dylan Thomas, ewch i
2014 yw canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Yn ogystal â noddi Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, dyma rai o’r uchafbwyntiau eraill a gaiff eu cynnal gan Brifysgol Abertawe i ddathlu’r canmlwyddiant:
- Dylan Unchained – cynhadledd academaidd ryngwladol ar Dylan Thomas ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2014
- Astudiaeth Newydd o waith Thomas - Mae’r Athro John Goodby newydd lansio astudiaeth fawr ar Dylan Thomas, gan ail-werthuso ei waith ar gyfer yr 21ain ganrif
- Cyhoeddiad newydd o farddoniaeth Dylan Thomas – cyhoeddi llyfr cynhwysfawr newydd ac awdurdodedig, a olygwyd gan yr Athro John Goodby, sy’n awdurdod rhyngwladol ar y bardd
- Mynd â llenyddiaeth i’r byd ehangach – bydd ein beirdd, ein nofelwyr, ein dramodwyr, a’n beirniaid yn mynd â’u gwaith i’r byd ehangach drwy wyliau llenyddol, gan gynnwys Gŵyl y Gelli, yn ystod 2014.