Darparu gwybodaeth fasnachu ar gyfer llety gwyliau hunanddarpar
Mae’r VOA yn gofyn i rai perchnogion llety gwyliau hunanddarpar am ragor o wybodaeth am eu heiddo.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn ysgrifennu at rai perchnogion llety gwyliau hunanddarpar sy’n cael eu hasesu ar gyfer ardrethi busnes.
Rydym yn gwneud hyn oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth arnom am incwm a gwariant yr eiddo hyn.
Y llynedd, fe wnaethom ysgrifennu at y rhan fwyaf o berchnogion llety gwyliau hunanddarpar yng Nghymru a Lloegr i ofyn iddynt ddarparu gwybodaeth o ran rhoi eu heiddo ar osod.
Defnyddiwyd yr wybodaeth hon i bennu a ddylai eiddo gael ei asesu at ddibenion ardrethi busnes neu Dreth Gyngor. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yn ein blog.
Os gwnaethom bennu y dylid asesu eich eiddo at ddibenion ardrethi busnes, efallai y byddwch yn cael ffurflen arall yn gofyn am rywfaint o wybodaeth ychwanegol.
Bydd yn edrych yn debyg i’r ffurflen a anfonwyd atoch y llynedd.
Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth
Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i gyfrifo gwerth ardrethol eich eiddo. Defnyddir gwerthoedd ardrethol gan gynghorau i gyfrifo biliau ardrethi busnes ac i bennu a ydych yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnes neu beidio.
Mae’n ofynnol arnom yn ôl y gyfraith i ddiweddaru gwerthoedd ardrethol pob eiddo annomestig, gan gynnwys llety gwyliau hunanddarpar, bob tair blynedd. Gelwir hyn yn ailbrisiad.
Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau bod biliau ardrethi busnes yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf.
Er mwyn prisio llety gwyliau hunanddarpar, mae angen gwybodaeth arnom am eich incwm a’ch gwariant. Gallwch ddarllen am sut rydym yn prisio eich eiddo ar gyfer ardrethi busnes yn fanylach yn ein blog.
Darparwch yr wybodaeth cyn pen 56 diwrnod
Bydd ffurflenni yn cael eu hanfon at sampl gynrychioliadol o berchnogion llety gwyliau hunanddarpar rhwng mis Chwefror a mis Awst.
Os ydych yn cael ffurflen gan y VOA yn gofyn am wybodaeth am eich llety gwyliau hunanddarpar, mae’n bwysig eich bod yn ei dychwelyd cyn pen 56 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd ei chyhoeddi.
Os na wnewch hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Gwiriwch eich bod wedi darparu’r holl wybodaeth rydym wedi gofyn amdani cyn i chi ddychwelyd y ffurflen, hyd yn oed os ydych wedi rhannu rhywfaint o wybodaeth â ni yn y gorffennol. Os dychwelwch y ffurflen a’i bod yn rhannol anghyflawn, efallai y bydd rhaid i chi dalu cosb o hyd.
Dim ond os ydym wedi gofyn i chi rannu’ch manylion gyda ni y bydd angen i chi wneud hynny.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 13 Chwefror 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Chwefror 2024 + show all updates
-
Adding Welsh translation
-
First published.