Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Ysgrifennydd Cymru’n llongyfarch y rheini sy’n derbyn Anrhydeddau ar Ben-blwydd y Frenhines
Heddiw [dydd Sadwrn 14 Mehefin], mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi llongyfarch y bobl o Gymru sy’n derbyn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2014.
Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rwy’n hynod falch o estyn fy llongyfarchiadau gwresocaf i bawb sydd wedi cael eu cydnabod yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl sy’n gwasanaethu eu cymunedau a’u gwlad - yn aml heb ddisgwyl cydnabyddiaeth – yn cael eu hanrhydeddu fel hyn. Maent yn cael eu dewis am eu hymroddiad, eu hymrwymiad a’u gwaith diflino yn helpu i wella bywydau pobl eraill.
Mae’n ysbrydoledig i glywed am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan y rhai a anrhydeddwyd, a gweld y gwahaniaeth cadarnhaol y maent yn ei wneud i’n cenedl. Rwy’n falch iawn o gael dweud diolch a llongyfarchiadau i bob un ohonynt.